Tân mewn gwesty yn Nhwrci yn lladd degau
Tân mewn gwesty yn Nhwrci yn lladd degau
Yn ôl adroddiadau, mae o leiaf 66 o bobl wedi eu lladd wrth i dân gynnau mewn gwesty yn Nhwrci.
Cynheuodd y tân yng ngwesty'r Grand Kartal tua 3.30 y bore, amser Twrci, mewn cyrchfan gwyliau sgio yn Kartalkaya.
Mae dwsinau yn rhagor wedi eu hanafu.
Mae pedwar o bobl wedi eu harestio, yn cynnwys perchennog y gwesty, yn ôl gweinidog cyfiawnder Twrci.
Fe gymerodd 12 awr i ddiffodd y fflamau.
Mae'n gyfnod gwyliau yn Nhwrci ar hyn o bryd, ac roedd 234 o bobl yn aros yn y gwesty.
Mae lluniau wedi eu rhannu yn dangos pobl yn ceisio ffoi drwy ffenestri'r adeilad.
Yn ôl adroddiadau cynnar, fe gynheuodd y tân ym mwyty'r gwesty sydd ar y pedwerydd llawr, gan ymledu i'r lloriau uwchben.
Oherwydd lleoliad y gwesty ac amodau'r tywydd rhewllyd, fe gymerodd fwy nag awr i griwiau tân gyrraedd y safle.