Storm Éowyn: Rhybudd gwynt i Gymru gyfan
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt i Gymru gyfan ddydd Gwener gan ddweud y bydd Storm Éowyn yn bwrw'r wlad bryd hynny.
Bydd y rhybudd mewn grym drwy’r dydd ddydd Gwener ac mae disgwyl gwyntoedd o 60-70mya ar yr arfordir a’r bryniau.
Gallai’r gwyntoedd gyrraedd 80mya mewn rhai rhannau o’r DU.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod yna rywfaint o ansicrwydd o hyd am union lwybr y storm ond fod disgwyl i Éowyn symud o’r de-orllewin a chroesi gogledd-orllewin y DU.
Bydd y gwynt yn pylu tua’r de yn hwyrach ddydd Gwener.
Dylai pobl baratoi ar gyfer toriadau trydan a chadw draw o’r arfordir, a chynllunio ar gyfer gorfod newid trefniadau teithio.