‘Difrod sylweddol’: Diffodd tân mewn car yng Ngheredigion
21/01/2025
Mae’r gwasanaeth tân wedi diffodd tân mewn car a gafodd ei “ddifrodi yn sylweddol” ger Llandysul yng Ngheredigion.
Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi eu galw i’r digwyddiad ym mhentref Henllan ddydd Llun.
Cafodd y gwasanaeth eu galw am 10.59 a gadael am 11.39.
“Ymatebodd y criw i un cerbyd modur preifat oedd wedi mynd ar dân,” medden nhw.
“Defnyddiodd aelodau'r criw un jet rîl pibell i ddiffodd y tân. Cafodd y cerbyd ei ddifrodi'n sylweddol gan y tân.”