Dechrau achos llys y Tywysog Harry yn erbyn The Sun
Mae disgwyl i achos llys Dug Sussex yn erbyn papur newydd The Sun gychwyn yn ddiweddarach dydd Mawrth.
Mae'r Tywysog Harry yn erlyn News Group Newspapers (NGN) dros honiadau o gasglu gwybodaeth yn anghyfreithlon. Yr honiad yw bod newyddiadurwyr ac ymchwilwyr preifat wedi ei dargedu.
Mae cyn-ddirprwy arweinydd y blaid Lafur, Yr Arglwydd Tom Watson, hefyd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyhoeddwr.
Y disgwyl yw y bydd yr achos yn para 10 wythnos ac mae disgwyl i'r Tywysog Harry roi tystiolaeth dros gyfnod o sawl diwrnod.
Gwadu bod unrhyw weithgaredd anghyfreithlon wedi digwydd o fewn The Sun mae NGN.
Yn y gorffennol mae'r barnwr wedi disgrifio'r achos fel ymgyrch rhwng "dwy fyddin ystyfnig sydd â digonedd o adnoddau" ond sydd yn cymryd "mwy na sydd yn briodol" o amser yn y llys.
Mae nifer o unigolion sydd gyda phroffil uchel wedi setlo eu hachosion yn erbyn NGN, gan gynnwys yr actor Hugh Grant, yr actores Sienna Miller, y cyn chwaraewr pêl droed Paul Gascoigne a'r gantores o'r grŵp Spice Girls, Melaine Chisholm.
Ym mis Rhagfyr, dywedodd y Tywysog Harry ei fod yn ceisio cael "atebolrwydd a'r gwir" trwy gymryd camau cyfreithiol.
Mae NGN yn dweud eu bod yn gwadu'r cyhuddiadau ac y byddan nhw yn galw nifer o dystion, gan gynnwys cyfreithwyr, uwch staff a thechnolegwyr i drechu'r honiadau.