Adolygu tystiolaeth gyfrifiadurol yn y llys wedi Sgandal Horizon
Bydd y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn adolygu'r defnydd o dystiolaeth gyfrifiadurol yn y llys wedi Sgandal Horizon.
Dywedodd y Weinyddiaeth Cyfiawnder bod y system cyfiawnder troseddol yn cymryd yn ganiataol bod cyfrifiaduron yn gweithio’n gywir.
Mae'r system hefyd yn credu bod tystiolaeth sy'n cael ei gynhyrchu gan feddalwedd yn gywir oni bai bod tystiolaeth i’r gwrthwyneb, meddai.
Ond ychwanegodd bod euogfarnau anghyfiawn cannoedd o is-bostfeistri yng Nghymru a Lloegr yn profi bod y system yn ddiffygiol.
Er mwyn atal camweinyddu cyfiawnder, mae'r weinyddiaeth wedi gofyn am farn arbenigwyr "ar draws y system gyfiawnder a thu hwnt" ar sut i drin tystiolaeth gyfrifiadurol.
Fe gafodd yr alwad ei lansio ddydd Mawrth ac fe fydd yn para 12 wythnos.
Mae’n rhan o ymgais Llywodraeth y DU i adfer hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder troseddol.
Mae tystiolaeth gyfrifiadurol yn ganolog i lawer o erlyniadau gan gynnwys twyll a throseddau rhyw difrifol.
Gallai mesurau ychwanegol i brofi bod dyfeisiau cyfrifiadurol yn gweithio'n gywir effeithio ar ba mor gyflym y caiff achosion eu cwblhau.
'Angen dysgu gwersi'
Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Sarah Sackman KC bod yn "rhaid i ni ddysgu gwersi o'r sgandal Swyddfa’r Post".
"Mae angen i ni ystyried yn ofalus sut y gallwn ddefnyddio a chwestiynu tystiolaeth ddigidol yn y llys.
"Mae sicrhau bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag camweinyddu cyfiawnder yn hanfodol, ac yn un rhan o Gynllun Newid y Llywodraeth."
Fe gafodd mwy na 900 o is-bostfeistri eu herlyn rhwng 1999 a 2015 wedi i feddalwedd cyfrifo diffygiol Horizon ddangos fod arian ar goll o'u cyfrifon post.
Fe wnaeth Swyddfa'r Post ei hun fynd â sawl achos i'r llys, gan erlyn 700 o bobl rhwng 1999 a 2015.
Y gred yw mai dyma'r achos mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes system gyfreithiol y DU.