Newyddion S4C

Ffermwyr yn lobïo Llywodraeth y DU wrth i incwm ffermydd ostwng 34%

Treth etifeddiaeth

Mae grŵp o ffermwyr wedi bod yn lobïo gweinidog yn Swyddfa Cymru, Nia Griffith, yng Nghaerdydd heddiw dros gynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglyn ag amaethyddiaeth.

Mae’r rhain yn cynnwys newid i’r dreth etifeddiaeth, a fydd yn effeithio ar 75% o ffermydd yn ôl undeb NFU Cymru.

O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol sy'n werth dros £1 miliwn.

Mewn cyfarfod yng Nghaerdydd, daeth aelodau o Gyngor NFU Cymru ynghyd a oedd yn cynrychioli ffermydd o bob sector a maint yng Nghymru, i drafod yr heriau yn wynebu’r diwydiant.

Daw hyn ar ôl i ffigyrau Llywodraeth Cymru ddatgelu fod incwm ffermydd wedi gostwng ar gyfartaledd 34% rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024.

Ffermwyr godro a welodd y gostyngiad mwyaf, gyda 59% yn llai o incwm dros y flwyddyn.

Yn ôl Cadeirydd NFU Cymru, Aled Jones, “Oni bai bod Llywodraeth y DU yn barod i ailfeddwl, bydd ein haelodau’n cael eu rhoi yn y sefyllfa warthus o orfod dewis rhwng gwerthu asedau, lleihau capasiti cynhyrchiol neu orffen ffermio’n gyfan gwbl.”

Ni wnaeth Llywodraeth y DU ganiatau i gamerau ITV Cymru fynd i'r cyfarfod, ond yn flaenorol, maent wedi dweud bod eu cynlluniau yn ymwneud â’r dreth etifeddiaeth yn deg a chytbwys.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.