Newyddion S4C

Urddo Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau unwaith eto

Trump yn Arlywydd

Mae Donald Trump wedi ei urddo yn Arlywydd yr Unol Daleithiau am yr ail waith mewn seremoni yn rotwnda adeilad y Capitol yn Washington D.C.

Dywedodd Donald Trump bod "oes aur yr Unol Daleithiau wedi dechrau" wrth areithio ar ôl cael ei urddo.

"Rydw i'n hyderus ein bod ni ar ddechrau cyfnod newydd o lwyddiant cenedlaethol.

“Bydd tafol cyfiawnder yn cael eu hail-gydbwyso. Bydd defnyddio yr Adran Gyfiawnder fel arf dieflig, treisgar ac annheg yn dod i ben."

Ef yw 47fed Arlywydd ar y wlad wrth iddo gymryd yr awenau am yr eildro wrth olynu Joe Biden.

Ef yw'r ail ddyn erioed, ar ôl Stephen Grover Cleveland yn 1893, i gael ei urddo i ail gyfnod yn Arlywydd nad oedd yn dilyn yn syth ar ôl ei gilydd.

Donald Trump hefyd yw’r dyn hynaf erioed i gael ei urddo’n Arlywydd, yn 78 mlynedd, saith mis a chwe diwrnod oed - pum mis yn hŷn nag oedd Joe Biden yn 2021.

Cafodd y seremoni i urddo Mr Trump a JD Vance fel Dirprwy Arlywydd ei chynnal dan do yn rotwnda adeilad y Capitol yn hytrach nag ar y grisiau tu allan fel sy’n arferol.

Dywedodd swyddogion fod hyn er mwyn gwarchod pawb oedd yn mynychu rhag tywydd oer iawn yn y brifddinas. Mae'n bosib y bydd y tymheredd yn gostwng i -11C.

Yn yr oriau nesaf, mae disgwyl i Donald Trump ddatgan "argyfwng cenedlaethol" wrth ffin America a Mecsico, a chael gwared â rhaglenni amrywiaeth y llywodraeth.

Ond ni fydd yn gwneud cyhoeddiad ar godi tariff ar bartneriaid ym maes masnach ddydd Llun, yn ôl swyddogion. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.