Dau ddyn yn euog o lofruddio dyn wedi ffrae yng nghanol Abertawe
Mae dau ddyn wedi eu dyfarnu'n euog o lofruddio dyn 33 oed yng nghanol dinas Abertawe y llynedd.
Bu farw Andrew Main o Falkirk yn Yr Alban o'i anafiadau fis wedi'r ymosodiad ar 17 Gorffennaf.
Plediodd Joseph Dix, 26 oed o Frome, Gwlad yr Haf, a Macauley Ruddock, 28 oed o Gaerfaddon yn ddi euog.
Wedi'r dyfarniad, dywedodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton: "Rydym yn falch o glywed fod Joseph Dix a Macauley Ruddock wedi eu cael yn euog.
"Roedd y ddau yn ymweld ag Abertawe gyda'u gwaith, ac roedd Andrew Main yno gyda'i waith hefyd. Roedd y tri yn aros yn yr un gwesty yng nghanol y ddinas, ac fe wnaethon nhw gyfarfod am y tro cyntaf mewn bar gerllaw."
Effaith alcohol
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Claire Lamerton: "Yn ddiweddarach, dechreuodd Joseph Dix a Macauley Ruddock ac Andrew Main a'i ffrind Michael Bell ddadlau nôl yn y gwesty. Fe symudodd y pedwar allan i'r stryd, cyn i Dix a Ruddock redeg ar ôl Andrew Main, gan ei daro yn anymwybodol.
"Er fod y dynion i gyd wedi yfed alcohol y noson honno, dyw hynny ddim yn esgus ar gyfer y lefel o drais gan Joseph Dix a Macauley Ruddock. Roedden nhw yn amlwg yn bwriadu achosi anaf difrifol i'r dioddefwr, a bellach maen nhw yn wynebu dedfryd o garchar am gyfnod hir."
Ychwanegodd Ms Lamerton bod yr heddlu yn meddwl am deulu a ffrindiau Andrew Main, sydd wedi eu llorio gan yr hyn a ddigwyddodd.
"Mae'r achos hwn yn tanlinellu effaith negyddol alcohol," meddai.
"Petai Joseph Dix a Macauley Ruddock wedi dewis cerdded i ffwrdd y noson honno, byddai bywyd wedi ei arbed, a fydden nhw ddim yn ddau lofrudd."