Newyddion S4C

90 o Balesteiniaid wedi eu rhyddhau o garchar ar ail ddiwrnod Cadoediad Gaza

20/01/2025
Gwystlon Palesteina yn dathlu wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau

Mae 90 o Balesteiniaid wedi cael eu rhyddhau o garchar Israelaidd ar y lan orllewinol fel rhan o amodau’r cytundeb i ddod â’r ymladd ar lein Gaza i ben.

Roedd y rhan fwyaf o’r carcharorion Palesteinaidd sydd wedi eu rhyddhau yn fenywod ac yn fechgyn ifanc.

Ar ddiwrnod cyntaf y cadoediad ddydd Sul cafodd tair menyw Israelaidd oedd wedi cael eu dal yn wystlon gan Hamas ers 15 mis eu dychwelyd.

Mae disgwyl i bedwar gwystl arall o Israel gael eu rhyddhau’r wythnos hon.

Bydd tri gwystl yn cael eu rhyddhau bob saith diwrnod wedi hynny, yn ôl Arlywydd yr Unol Daleithiau sydd ar fin gadael ei swydd, Joe Biden.

Cafodd 500 o lorïau cludo nwyddau dyngarol fynediad i Gaza ddydd Sul. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.