'Diffyg gweithredu' i achub byd natur medd adroddiad
Mae un o bwyllgorau’r Senedd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o ddiffyg ‘cynllun, gweithredu a buddsoddiad' yn eu haddewid i achub byd natur.
Fe aeth Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ati i edrych ar waith y llywodraeth i geisio diogelu byd natur Cymru.
Casgliad yr adroddiad yw bod sawl enghraifft o 'oedi, ymrwymiadau heb eu cyflawni, a therfynau amser a fethwyd'.
Maent hefyd yn dweud bod diffyg staffio o fewn adran y llywodraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael effaith ar yr hyn maent yn ceisio cyflawni.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod "wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, ac yn cydnabod yr angen i gynyddu maint a chyflymder ein darpariaeth er mwyn cyrraedd targedau bioamrywiaeth, nawr ac yn y dyfodol".
Diffyg adnoddau
Yn ôl aelodau’r pwyllgor dyw gwarchod byd natur ddim yn flaenoriaeth i’r llywodraeth. Maent yn sôn am ddogfennau allweddol sydd heb eu diweddaru ers blynyddoedd. Maent hefyd yn dweud bod gan Lywodraeth Cymru dargedau bioamrywiaeth gyfreithiol sydd wedi eu gosod ers 2021. Ond dyw hi ddim yn debygol y bydd y targedau yma yn cael eu pennu am bedair blynedd arall.
Pryder arall medd y ddogfen yw’r diffyg adnoddau sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru sef y rheoleiddiwr amgylcheddol. Yn ôl y pwyllgor os nad oes yna fwy o arian yn cael ei rhoi i’r corff fe fydd nifer o fentrau amgylcheddol pwysig yn methu.
Mae’r adroddiad yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun gweithredu newydd ar gyfer byd natur a chyflymu’r gwaith sydd yn cael ei wneud yn y maes.
Yn ôl yr aelodau dyw’r ddeddf bresennol ddim yn ddigonol. Mae gan y llywodraeth fwriad i gyhoeddi deddf newydd eleni. Fe ddylai’r gyfraith hon unioni’r gwendidau yn y gyfraith sydd yn bodoli ar hyn o bryd medd y pwyllgor. Maent yn galw am darged i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 a chyflawni adferiad erbyn 2050.
'Gwneud â dweud'
Mae'n newyddion da medd Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Llyr Gruffydd AS bod Llywodraeth Cymru yn “cydnabod bod hwn yn fater difrifol a'i bod wedi ymrwymo i atal a gwrthdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth.
“Ond y realiti anffodus yw bod cynlluniau, strategaethau a pholisïau niferus Llywodraeth Cymru wedi methu ag atal y dirywiad hwn. Ac mae'n amlwg mai'r rheswm am hyn yw’r diffyg buddsoddiad neu weithredu i wireddu'r addewidion hyn.
“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglŷn ag achub byd natur Cymru, yna ni all anwybyddu’r adroddiad hwn, a rhaid iddi ddechrau gwneud yn ogystal â dweud cyn iddi fynd yn rhy hwyr.”
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw yn ystyried cynnwys yr adroddiad a'r argymhellion ac yn ymateb yn ffurfiol.
"Rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, ac yn cydnabod yr angen i gynyddu maint a chyflymder ein darpariaeth er mwyn cyrraedd targedau bioamrywiaeth, nawr ac yn y dyfodol," meddai'r llefarydd.
Maent hefyd yn dweud nad "mater i'r Llywodraeth yn unig yw hyn".
Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru