Llygaid y byd ar Washington wrth i Donald Trump gael ei urddo'n Arlywydd
Fe fydd seremoni i urddo Donald Trump fel Arlywydd yr UDA yn cael ei chynnal yn y brifddinas Washington DC ddydd Llun.
Ef fydd 47fed Arlywydd ar y wlad wrth iddo gymryd yr awenau am yr eildro i olynu Joe Biden.
Fe gyrhaeddodd Mr Trump y brifddinas ddydd Sadwrn ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau dros y penwythnos yn y cyfnod cyn ei seremoni tyngu llw.
Fe fydd y seremoni i Mr Trump a JD Vance fel Is-Arlywydd yn cael ei chynnal dan do yn rotwnda adeilad y Capitol yn hytrach nag ar y grisiau tu allan fel sy’n arferol.
Dywedodd swyddogion fod hyn er mwyn gwarchod pawb oedd yn mynychu rhag tywydd oer iawn yn y brifddinas. Mae'n bosib y bydd y tymheredd yn gostwng i-11C.
Roedd rhai sylwebwyr yn awgrymu fod hyn am resymau diogelwch, gan ystyried fod Mr Trump wedi goroesi ymgais ar ei fywyd yn ystod y ras arlywyddol.
Tyngu llw
Mae'r diwrnod urddo yn cynnwys seremoni tyngu llw ffurfiol yn ogystal â pherfformiadau cerddorol.
Mae rhan allweddol o’r seremoni yn cynnwys yr Arlywydd-Etholedig yn adrodd llw’r swydd: “Rwy’n tyngu’n ddifrifol y byddaf yn gweithredu Swyddfa Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ffyddlon, ac y byddaf, hyd eithaf fy ngallu, yn cadw, yn amddiffyn a gwarchod Cyfansoddiad yr Unol Daleithiau."
Er iddo ennill yr etholiad ym mis Tachwedd, daw Trump yn swyddogol yn 47ain Arlywydd unwaith y bydd yn dweud y geiriau hynny. Fe wasanaethodd Donald Trump fel y 45fed arlywydd rhwng 2017 a 2021.
Bydd Mr Vance hefyd yn tyngu llw cyn iddo gymryd swydd yr Is-Arlywydd yn ffurfiol.
Bydd y ddau yn gosod eu dwylo ar lyfr - Beibl fel arfer, ond nid bob amser - ac yn adrodd llw’r swydd.
Eleni, bydd Mr Trump yn defnyddio dau – Beibl personol a roddwyd iddo gan ei fam ym 1955 a Beibl hanesyddol Lincoln, cyfrol wedi’i rhwymo mewn melfed a ddefnyddiwyd adeg urddo’r Arlywydd Abraham Lincoln ym 1861.
Mae disgwyl i’r seremoni gychwyn gyda pherfformiadau cerddorol am 09:30 amser lleol (14:30 GMT).