Argyfwng dŵr: Ysgolion Conwy i adael i ddisgyblion wisgo eu dillad eu hunain
Mae nifer o ysgolion yn Sir Conwy wedi dweud y bydd disgyblion yn cael gwisgo eu dillad eu hunain ddydd Llun, gan nad oedd cyfle i olchi dillad ysgol dros y penwythnos o achos diffyg dŵr yn y sir.
Cafodd degau o filoedd o gartrefi a busnesau eu heffeithio yn y sir dros y dyddiau diwethaf, wedi i beipen gael ei difrodi yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd yn Nolgarrog.
Dywedodd Dŵr Cymru dydd Sul bod tua 90% o'r tai oedd wedi eu heffeithio bellach yn derbyn dŵr yfed unwaith eto.
Roedd hyd at 40,000 o gartrefi a busnesau wedi eu heffeithio ar un cyfnod a hynny dros ardal eang o fewn y sir.
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd Ysgol Aberconwy yng Nghonwy y byddai gan ddisgyblion yr hawl i wisgo eu dillad eu hunain neu ddillad ymarfer corff ddydd Llun:
"Gan fod y cyflenwad dŵr yn cael ei adfer ar draws yr ardal ar hyn o bryd rydym yn rhagweld y bydd ar agor fel arfer ddydd Llun.
"Byddwn yn caniatáu i fyfyrwyr wisgo naill ai gwisg ysgol, gwisg ymarfer corff neu ddillad nad yw'n wisg ysgol ar ddydd Llun i wneud pethau’n haws i deuluoedd sydd wedi methu â golchi dillad dros y penwythnos."
Yn un oedd y neges i ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst hefyd.
Mewn datganiad, dywedodd yr ysgol: "Yn dilyn diffyg dŵr mewn rhai ardaloedd; yr ydym yn sylweddoli na fydd rhai wedi gallu golchi dillad dros y dyddiau diwethaf.
"O ganlyniad yr ydym yn deall os bydd rhai dysgwyr ddim mewn gwisg ysgol llawn dros y dyddiau nesaf a bod ganddynt ganiatâd i wisgo dillad addas arall."
Dywedodd datganiad gan Ysgol John Bright yn Llandudno: "Gan fod y cyflenwad dŵr yn cael ei adfer ar hyn o bryd rydym yn hyderus y byddwn ar agor ddydd Llun fel arfer.
"Bydd gennym ddiwrnod di-wisg ysgol i bob myfyriwr ddydd Llun i wneud pethau'n haws i deuluoedd sydd wedi methu golchi dillad dros y penwythnos."