Newyddion S4C

Cau rhan o'r A470 yn y canolbarth tan ddiwedd mis Ebrill

20/01/2025

Cau rhan o'r A470 yn y canolbarth tan ddiwedd mis Ebrill

Fe fydd rhan o un o ffyrdd prysuraf canolbarth Cymru, sef yr A470, yn cau am gyfnod o dri mis o ddydd Llun ymlaen. 
 
Mae angen cynnal gwaith o adeiladu sylfeini'r mur gynhaliol newydd arni, ar ôl i ran o’r wal o dan y ffordd gwympo i’r afon dros flwyddyn yn ôl. 
 
Cafodd gwaith atgyweirio brys ei gynnal ar y pryd. Erbyn hyn mae'n rhaid cau rhan o'r ffordd i wneud gwaith pellach, fydd yn creu dargyfeiriad hir o 70 milltir i deithwyr.
 
Bydd yn mynd a gyrwyr trwy Gaersws, y Drenewydd a'r Trallwng cyn troi i ailymuno a'r A470 ym Mallwyd.
 
Roedd yna fwriad i wneud y gwaith yn gynt ond fe gafodd y gwaith ei ohirio o achos y gwrthdrawiad ar reilffordd y Cambria ym mis Hydref. 
 
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn deall bydd cau'r ffordd yn achosi anawsterau, ond bod y gwaith yn hanfodol ar gyfer dyfodol hirdymor y ffordd.
 
Mewn datganiad, dywedodd y Llywodraeth eu bod yn cynghori pobl i gynllunio ymlaen llaw cyn teithio ar y ffordd. 
 
"Tra bydd y rhan o'r ffordd ar gau yn llwyr caiff y goleuadau traffig dwy ffordd eu hailosod ar y safle er mwyn gallu gorffen y gwaith adeiladu. 
 
"Bydd yr holl drefniadau rheoli traffig yn dod i ben ar y safle erbyn 30 Ebrill 2025. 
 
"Mae cyfnod y gwaith wedi'i estyn er mwyn galluogi gwyriad mawr o'r system ddŵr. Eto i gyd, y gobaith yw y gall y gwaith gael ei gwblhau cyn y dyddiad hwn os oes modd."
Image
A470

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.