Newyddion S4C

TikTok wedi dychwelyd i ddefnyddwyr yn America ychydig oriau ar ôl diflannu

19/01/2025
Neges TikTok

Mae TikTok wedi dychwelyd i ddefnyddwyr yn yr UDA, ychydig oriau wedi i'r gwasanaeth fideos byr ddiflannu o ddyfeisiadau defnyddwyr y wlad.

Cafodd ei ddileu am nifer o oriau ddydd Sul gan berchnogion y cwmni, a hynny cyn i gyfraith newydd yn gwahardd y platfform yno ddod i rym.

Dywedodd neges a ymddangosodd ar yr ap ar gyfer defnyddwyr yr Unol Daleithiau fod cyfraith yn gwahardd TikTok wedi’i deddfu, sy’n golygu “ni allwch ddefnyddio TikTok am y tro”.

Ond fe ddaeth yn ôl yn ddiweddarach.

Bydd yr ap rhannu fideos yn cael ei wahardd yn ddiweddarach oherwydd pryderon am ei gysylltiadau â llywodraeth Tsieina, ac roedd wedi cael dyddiad cau o 19 Ionawr i’w werthu i brynwr cydnabyddedig o’r Unol Daleithiau.

Roedd yr Arlywydd Joe Biden wedi dweud y byddai’n gadael y mater i’w olynydd, Donald Trump. Mae Trump wedi dweud y bydd yn “fwyaf tebygol” o roi 90 diwrnod i TikTok i osgoi y gwaharddiad o'r cyfnod pan fydd yn cymryd yr awenau yn ei swydd newydd fel arlywydd ddydd Llun.

“Mae’r estyniad 90 diwrnod yn rhywbeth a fydd yn cael ei wneud yn fwyaf tebygol, oherwydd mae’n briodol,” meddai Trump wrth newyddion NBC ddydd Sadwrn.

"Os penderfynaf wneud hynny, mae'n debyg y byddaf yn ei gyhoeddi ddydd Llun."

Cyfreithiau a phrosesau

Dywedodd defnyddwyr fod yr ap hefyd wedi'i dynnu o siopau apiau Apple a Google yn America am gyfnod ddydd Sul, ac nid oedd TikTok.com yn dangos fideos.

Nid oes “unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wahardd TikTok”, meddai un o weinidogion Cabinet y DU.

Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Darren Jones, wrth raglen Sunday with Laura Kuenssberg y BBC: “Rydym bob amser yn cadw’r holl faterion technoleg hyn dan ystyriaeth, boed hynny ar gyfer pryderon diogelwch cenedlaethol neu breifatrwydd data.

“Mae gennym ni gyfreithiau a phrosesau i wneud hynny. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i wahardd TikTok o'r DU.

“Felly, ni fyddwn yn dilyn yr un llwybr ag y mae’r Americanwyr wedi’i ddilyn oni bai neu tan rywbryd yn y dyfodol fod yna fygythiad yr ydym yn poeni amdano er budd Prydain.”

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.