Newyddion S4C

'Byddai ennill The Traitors wedi gallu talu am lawdriniaeth endometriosis'

19/01/2025
Elen Wyn

Mae dynes o Fôn oedd ar gyfres boblogaidd The Traitors yn ddiweddar wedi dweud mai ei gobaith wrth gymryd rhan oedd ennill y wobr ariannol er mwyn talu am driniaeth feddygol ar gyfer ei chyflwr endometriosis.

Roedd yn rhaid i Elen Wyn o bentref Llanfair-yng-nghornwy ar Ynys Môn adael y gyfres ar ôl ychydig o benodau wedi i nifer o'r cystadleuwyr eraill credu ei bod hi'n un o'r 'bradwyr' sydd angen eu darganfod yn y gêm.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Elen Wyn ei bod wedi derbyn diagnosis o endometriosis yr adeg yma y llynedd a bod y cyflwr yn effeithio ar ei choluddyn, pledren ac arennau.

"Roedd yn un o'r rhesymau pam yr oeddwn am fynd ar y sioe, achos fe fyddwn i wir wedi gallu gwneud gyda'r arian i ariannu llawdriniaeth breifat - achos ar hyn o bryd rwyf ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd sydd hyd at bedair blynedd.

"Roeddwn hefyd wir am godi ymwybyddiaeth am y cyflwr achos mae'n gyffredin iawn ymysg merched ac nid oes digon o ymchwil nag arian wedi ei roi iddo."

Cyflwr cyffredin a phoenus

Mae endometriosis yn gyflwr lle mae meinwe, sy’n debyg i’r meinwe sydd y tu mewn i’r groth, yn datblygu mewn rhannau eraill o’r corff fel yr ofarïau a thiwbiau ffalopaidd.

I rai menywod, mae hyn yn gallu achosi symptomau difrifol gan gynnwys mislif poenus a phoen pelfig, a gallai hefyd effeithio ar ffrwythlondeb.

Mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw yn fyd-eang, ac mae’n cael ei ddisgrifio gan y GIG fel un o’r 20 cyflwr mwyaf poenus.

Wrth drafod y gofal oedd ar gael iddi yn ystod ffilmio The Traitors yn yr Alban, esboniodd Elen Wyn: "Roedd tîm lles anhygoel ar y safle i fyny yn yr Alban ac roeddynt yn ymwybodol o fy nghyflwr ac roeddynt yn hyblyg iawn.

"Fe nes i ddweud wrthyn nhw ma'r peth mwyaf yr ydw i'n ei wneud i ganolbwyntio ar fy endometriosis yw cysgu a bwyta'n iach, ac fe wnaethon nhw sicrhau fod y bwyd oedd ar gael i fyny yna yn debyg iawn i'r hyn y byddaf yn ei fwyta yn ddyddiol.

"Fe roddon nhw yr holl gwahanol de perlysieuol, yr holl ffrwythau a llysiau a hadau. Nes i ddim chwaith yfed diferyn o alcohol achos yn amlwg mae alcohol yn gwneud eich endometriosis yn waeth. 

"A bod yn onest doeddwn i ddim yno'n ddigon hir iddo gael effaith ddifrifol ar fy nghyflwr felly yn gyffredinol roeddwn i'n eithaf lwcus."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.