Cau busnes a phlasty hanesyddol Nanteos ger Aberystwyth
Mae rheolwyr busnes a phlasty hanesyddol Nanteos yn Rhydyfelin ger Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn cau ar ddechrau mis Mawrth.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y rheolwyr bod y cwmni wedi “profi amodau economaidd anodd” ers nifer o flynyddoedd ac nad ydyn nhw wedi llwyddo i “oresgyn yr heriau hynny”.
Mae Plas Nanteos yn adeilad rhestredig Gradd 1 sy’n dyddio o’r 18fed ganrif ac wedi gweithredu fel gwesty a lleoliad ar gyfer priodasau am rai blynyddoedd.
Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi cysylltu gyda'r rhai hynny sydd wedi archebu lle neu ddigwyddiad am ddyddiadau ar ôl iddyn nhw gau.
Dywedodd rheolwr cyffredinol Nanteos Claire Stott: “Gyda chalon drom y cyhoeddaf yn drist y bydd Plas Nanteos yn cau ar 5ed Mawrth 2025.
"Nid yw’r penderfyniad hwn wedi’i wneud yn ysgafn a’r rheswm am hynny yw bod y cwmni wedi profi amodau economaidd anodd ers nifer o flynyddoedd. Er gwaethaf yr ymdrechion gorau i sicrhau dyfodol y cwmni, nid ydym wedi llwyddo i oresgyn yr heriau hyn.”
"Bydd ein tîm yn parhau i ddarparu'r lefel uchaf o wasanaeth i'n gwesteion tan ein diwrnod olaf o weithredu ac rydym yn eich gwahodd i gyd i ymuno â ni i ddathlu'r lleoliad hanesyddol hwn un tro olaf. Rydym eisoes wedi cysylltu â phawb sydd ag archebion ac wedi archebu lle ar ôl y dyddiad hwn.
“Rydyn ni'n falch o'r etifeddiaeth rydyn ni'n ei gadael ar ôl ac yn coleddu'r atgofion di-rif sy'n cael eu creu o fewn y waliau hyn. Gofynnwn yn garedig i chi drin ein tîm gyda charedigrwydd a thosturi yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.”
Dechreuwyd adeiladu Nanteos yn 1739 dan gyfarwyddyd Thomas Powell, AS Ceredigion, a ariannwyd gan gyfoeth sylweddol ei wraig Mary Frederick, wyres Syr John Frederick, Arglwydd Faer Llundain.
Fodd bynnag, bu farw Thomas cyn i’r gwaith gael ei gwblhau a gadawyd y stad i’w frawd, y Parchedig William Powell, i gwblhau’r gwaith yn 1752.
Llun: Facebook/Plas Nanteos