Tro pedol ar gynnig i ddatblygu felodrom newydd ym Mae Caerdydd
Mae cynlluniau i adeiladu felodrom newydd ym Mae Caerdydd wedi cael eu dileu ar ôl i gyngor y ddinas gael cynnig lleoliad arall ar gyfer ehangu ysgol uwchradd ddadleuol.
Roedd gan Gyngor Caerdydd gynlluniau i ehangu Ysgol Uwchradd Cathays i dir ym Mharc Maendy.
Mae ymgyrchwyr wedi bod yn brwydro yn erbyn y cynnig ers blynyddoedd, gan ofni colli Felodrom hanesyddol Maendy.
Mae Asiantaeth Eiddo’r Llywodraeth wedi cynnig y cyfle i Gyngor Caerdydd mewn trafodaethau cychwynnol, i ddatblygu tir sy'n berchen i Dŷ’r Cwmnïau yn Cathays.
Pe bai'n llwyddiannus, byddai hyn yn rhoi cyfle i'r cyngor ehangu yno yn lle ym Mharc Maendy.
Gallai hen safle Toys R Us yn Grangetown, lle'r oedd bwriad i'r felodrom newydd fynd, gael ei droi'n atyniad golffio hamdden newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Clustnodwyd safle Toys R Us i ddechrau ar gyfer felodrom newydd i gymryd lle trac beicio Maendy pe bai Ysgol Uwchradd Cathays newydd yn cael ei hadeiladu ar safle trac Maendy, a dim ond os byddai hynny’n digwydd.
“Ond, mae cyfle newydd wedi codi ers hynny lle mae’r cyngor yn cyd-drafod ag Asiantaeth Eiddo Llywodraeth y DU i sicrhau safle amgen ar gyfer Ysgol Uwchradd Cathays, a fyddai’n dileu’r angen i adleoli trac beicio Maendy.
“Rydym yn deall y gallai hyn fod yn newyddion siomedig i’r rhai oedd yn edrych ymlaen at felodrom newydd yn y ddinas.
“Fodd bynnag, ein blaenoriaeth erioed fu darparu ysgol newydd o’r radd flaenaf ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd Cathays."