Newyddion S4C

Apêl am gymorth y cyhoedd yn dilyn diflaniad menyw o Gaerdydd

Charlene Hobbs

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am gymorth y cyhoedd i ddod o hyd i fenyw sydd heb ei gweld am bron i chwe mis.

Dywedodd y llu eu bod nhw'n dal i ymchwilio i ddiflaniad Charlene Hobbs, sy’n 35 oed.

Ychwanegodd y llu eu bod nhw wedi bod yn chwilio nifer o gyfeiriadau, eiddo gwag, cerbydau a thir agored ar draws de Cymru.

Mae’r llu nawr yn apelio am gymorth y cyhoedd i helpu gyda’r chwilio trwy wirio adeiladau allanol ac eiddo gwag.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: “Fel rhan o’r chwilio parhaus am Charlene, rwy’n annog unrhyw un sy’n byw yn ardaloedd Sblot a’r Rhath i wirio eu heiddo gwag, neu unrhyw siediau neu adeiladau allanol y maent yn berchen arnynt, lle gallai Charlene fod wedi llochesu a chysylltu â ni ar unwaith os ydynt unrhyw wybodaeth a allai ein helpu i ddod o hyd iddi. 

“Mae Charlene yn fam, yn chwaer, yn ferch, ac yn ffrind i lawer. Fel ni, maen nhw i gyd yn bryderus iawn am ei lles ac yn ysu am atebion.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.