Y Bala’n cipio lle yn chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru
Mae Clwb Pêl-droed Y Bala wedi cipio lle yn chwech uchaf Uwch Gynghrair Cymru ar ôl iddyn nhw guro Cei Connah 0-2 nos Wener.
Daw hyn ar ôl i’w gêm ar Gae’r Castell nos Fawrth gael ei gohirio ar ôl awr o chwarae oherwydd niwl trwchus gyda Chei Connah ar y blaen o 3-0.
Ar ôl sawl gohiriad blaenorol yn Y Bala gan fod cae Maes Tegid wedi rhewi, fe gafodd rhan gynta’r tymor ei ymestyn at nos Fawrth.
Ar ôl cyfarfod fore Mercher daeth datganiad gan Fwrdd y Gynghrair yn cyhoeddi bod rhaid ail-chwarae’r gêm yn gyfan, a hynny nos Wener.
Yn sgil hynny fe wnaeth clwb Cei Connah ryddhau datganiad yn nodi bod nifer o’u tîm cyntaf am fod yn absennol y penwythnos hwn gan eu bod wedi trefnu gwyliau ymlaen llaw, a byddai’r Nomadiaid yn gorfod chwarae nifer o’u chwaraewyr ieuenctid yn eu lle.
Nid oedd hyn yn newyddion da i’r Barri gan eu bod yn credu eu bod nhw wedi gwneud digon i gyrraedd y Chwech Uchaf trwy gael gêm gyfartal yn erbyn Hwlffordd nos Fawrth.
Roedd pwynt yn unig i’r Bala nos Wener yn ddigon i’w codi uwchben Y Barri a sicrhau eu lle yn y Chwech Uchaf, tra ei bod hi’n amhosib i Gei Connah gyrraedd y nod gan fod Y Barri bedwar pwynt uwch eu pennau.
Yn dilyn y canlyniad nos Wener, roedd llawer yn feirniadol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol am y penderfyniad o ailchwarae gêm nos Wener gyda Chei Connah gyda mantais o dair gôl yn y gêm gafodd ei gohirio o achos y niwl.