Newyddion S4C

'Rhyddhad mawr': Cyflenwad dŵr yn dechrau dychwelyd i rai cartrefi yn Sir Conwy

Dwr Conwy

Mae cyflenwadau dŵr yfed wedi dechrau dychwelyd i rai cartrefi yn Sir Conwy ddydd Sadwrn, yn dilyn atgyweirio peipen oedd wedi ei difrodi.

Brynhawn dydd Gwener fe gyhoeddodd Dŵr Cymru bod y gwaith o atgyweirio'r bibell ddŵr oedd wedi byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd, Dolgarrog wedi’i gwblhau.

Roedd hyd at 40,000 o gartrefi a busnesau wedi eu heffeithio ar un cyfnod, ond bellach mae rhai cartrefi wedi cael cyflenwad dŵr yfed ar y rhwydwaith eto.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC fore dydd Sadwrn, dywedodd Osian Deiniol, sy'n rhedeg busnes Blas ar Fwyd yn Llanrwst: "Natho ni glywed y peips yn dechrau crynu tua 05:30 yn y bore, ac mae'r dŵr yn ôl.

"Pnawn dydd Iau roedd o'n amlwg fod rhywbeth o'i le. Yma yn Blas ar Fwyd mae ganddo ni siop ac mae ganddo ni dîm cynhyrchu a tîm dosbarthu - a wedyn rhwng y saithdeg o staff yn sydyn iawn roedd rhaid i ni roi canllawiau yn eu lle, a roedda ni'n ffodus iawn o dîm profiadol yma a tîm sy'n tynnu at ei gilydd.

"Wedyn ddoe roedd hi'n stop hyd nes bod o'n amlwg bod angen dŵr potel."

Bu'r cwmni'n brysur yn dosbarthu dŵr i eraill hefyd meddai.

"Drwy ein rhwydwaith natho ni gael  paledi o ddŵr yn sydyn iawn a cael nhw yma a gwneud nhw ar gael yn lleol i'r gymdeithas."

'Trafferth mawr'

Dywedodd y Cynghorydd Nia Clwyd Owen fod y sefyllfa wedi achosi "trafferth mawr" i'r ardal dros y dyddiau diwethaf.

"Doedd Llanrwst i gyd heb ddŵr - dros hanner Llanrwst faswn i'n ddweud oedd heb ddŵr - ond lot o fusnesau wedi gorfod cau, ysgolion cynradd yr ardal wedi gorfod cau, yr ysgol uwchradd wedi parhau ar agor gan bod y cyflenwad dŵr  yn iawn yn fanno.

"Ond y peth mwyaf calonogol dwi wedi ei weld ydi sut mae'r gymdeithas wedi dod at ei gilydd a dweud y gwir, a Facebook yn arf da iawn i hynny a pobl yn cynnig dŵr o'u cartrefi nhw a'u busnesau nhw i bobl oedd heb ddŵr felly.

"Ond mae na ryddhad mawr yn Llanrwst y bore ma yn ôl Facebook - dydy pobl 'rioed wedi bod mor falch i dynnu tsiaen ar eu toiledau, a mae hynny wedi digwydd bore ma."

Mae eglwysi ar draws Conwy wedi sefydlu canolfannau dŵr yfed i gefnogi cymunedau lleol yn ystod yr argyfwng diffyg dŵr.

Mae cynulleidfaoedd lleol yn gweithio gyda chynghorwyr, ASau ac Aelodau'r Senedd i gydlynu dosbarthiadau dŵr potel i filoedd o drigolion sydd wedi eu heffeithio.

48 awr

Er bod y gwaith o atgyweirio'r beipen wedi ei gwblhau, mae Dŵr Cymru'n rhybuddio y gallai gymeryd hyd at 48 awr i bawb dderbyn cyflenwadau unwaith eto.

Bydd gorsaf ddosbarthu dŵr yfed ychwanegol yn cael ei hagor yn y sir yn ddiweddarach ar gyfer pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ddiffyg dŵr yfed.

Fore dydd Sadwrn cyhoeddodd Dŵr Cymru y bydd gorsaf arall yn cael ei sefydlu yn ychwanegol at y gorsafoedd yn Zip World ger Betws y Coed, Parc Eirias ym Mae Colwyn, Bodlondeb, Conwy, ac un ym maes parcio traeth Penmorfa yn Llandudno.

Image
Map
Map o'r ardal gafodd ei heffeithio

"Rydym nawr yn ail-lenwi'r rhwydwaith. Ni fydd cyflenwadau dŵr yn cael eu hadfer yn llawn i'r holl gwsmeriaid sydd wedi eu heffeithio am hyd at 48 awr," meddai'r cwmni.

"Bydd cyflenwad dŵr gwahanol gymunedau o fewn ardal y rhwydwaith yn cael ei adfer ar wahanol adegau, wrth i'r rhwydwaith lenwi eto."

Mae Dŵr Cymru wedi cyheddi manylion iawndal i gwsmeriad sydd wedi cael eu heffeithio.

Bydd pob cartref cymwys yn cael £30 mewn iawndal am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau. Bydd hwn yn cael ei dalu'n awtomatig i gwsmeriaid yn eu cyfrifon banc. 

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni: "Bydd sieciau'n cael eu dosbarthu dros yr wythnosau nesaf i gwsmeriaid nad ydynt wedi cofrestru cyfrif banc gyda ni. 

"Bydd cwsmeriaid busnes yn cael iawndal o £75 am bob 12 awr yr effeithiwyd ar eu cyflenwadau ond bydd busnesau hefyd yn gallu cyflwyno hawliadau ar wahân am golli incwm ychwanegol."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.