Newyddion S4C

Oes angen gwahardd diodydd egni i blant dan 16?

Newyddion S4C

Oes angen gwahardd diodydd egni i blant dan 16?

Mi rydan ni'n clywed yn aml am yr ymdrechion i wneud Cymru yn genedl fwy iach.

Mae cynigion gan Lywodraeth Cymru i wahardd gwerthu diodydd egni i blant dan 16 oed yng Nghymru gan edrych hefyd ar gyfyngu ar ail-lenwi diodydd melys am ddim mewn bwytai.

Yn ôl arolwg diweddar gan Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn ymwybodol o effaith y diodydd ar eu hiechyd ond mae 'na amheuon am y newidiadau posib hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi ar hyn o bryd yn adolygu ymatebion i'w cynigion diweddar i geisio sicrhau amgylchedd fwyd mwy iach.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Cyfyngu ar ail-lenwi diodydd melys am ddim mewn bwytai

  • Ail-edrych ar leoliad bwyd a diodydd sy'n cynnwys swm uchel o fraster, siwgr a halen mewn siopau, gan gynnwys wrth siopa ar-lein

  • Atal cynigion arbennig ar gynnyrch o'r fath.

Mae Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru wedi cyfrannu at yr ymchwil gan holi dros 600 o blant 7 i 18 oed.

Roedd 62% yn cefnogi gwahardd y diodydd i blant o dan 16 oed.

Ymateb cymysg oedd i gyfyngu ar ail-lenwi diodydd am ddim mewn bwytai gyda 31% yn cefnogi a 42% ddim yn cefnogi - gyda'r mwyafrif yn nodi y byddai gwaharddiad yn gwneud bwyta ac yfed allan yn llai fforddiadwy i deuluoedd.

Image
Lloyd Lewis
Lewis Lloyd

"Roedd lot fawr ohonyn nhw yn nodi effeithiau negyddol siwgr, ond lot hefyd yn pryderu am gost ac yn poeni y byddai peidio cael y cynnig yna yn eu stopio rhag mynd mas am fwyd gyda'u teuluoedd oedd yn beth trist i'w ddarllen," meddai Lewis Lloyd ar ran Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.

"Mae angen ffocysu ar gynyddu ymwybyddiaeth a diddordeb mewn bwydydd iach ac i aros yn ymwybodol o'r ffaith bod angen cefnogi teuluoedd ar draws Cymru i wneud y dewisiadau iach hynny mewn amgylchiadau ariannol anodd,” ychwanegodd.

Cymysg hefyd oedd barn disgyblion yn Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, yn Llanelwy.

"Pan 'da chi'n ifanc, dydach chi ddim yn dallt be ydi'r effeithiau negyddol a ddim yn gwybod sut i'w defnyddio yn gyfrifol," meddai Emyr.

Image
Emyr
Emyr

"Maen nhw'n gallu bod yn neis ar y penwythnos fel one off ond yn ddyddiol dydi o ddim yn iach," ychwanegodd Mared.

Image
Mared
Mared

Roedd Beca a Mabon yn fwy amheus am y syniad.

Image
Beca
Beca

"Pan dwi'n mynd allan i fwyty fyswn i yn mynd am yr opsiwn yna gan ei fod yn haws," meddai Beca.

"Dwyt ti ddim yn mynd i fwytai yn amal felly os ti allan waeth i ti allu cael y dewis i ail lenwi dy ddiod" meddai Mabon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn adolygu'r ymatebion i'r ymgynghoriad sydd yn bwysig i'w helpu gyda'u camau nesaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.