Pryder y gallai gwaharddiad TikTok yn yr UDA effeithio ar incwm defnyddwyr
Mae crewyr cynnwys TikTok wedi galw’r gwaharddiad posib ar y gwasanaeth yn yr Unol Daleithiau yn un “hynod o annheg” - gan ddweud y gallai effeithio ar incwm pobl.
Mae dyfodol yr ap poblogaidd yn parhau i fod yn ansicr wrth i waharddiad posib yn yr UDA ddod i rym yn fuan, ond mae gweinyddiaeth newydd Donald Trump wedi awgrymu na fydd yn cael ei wahardd yn y wlad pan ddaw Mr Trump i rym.
Fis Ebrill diwethaf, llofnododd Arlywydd yr UDA Joe Biden gyfraith yn gorchymyn dyddiad cau ar wasanaeth TikTok yn ei wlad ar ddydd Sul 19 Ionawr.
Mae llywodraeth yr UDA yn gweld perchnogaeth TikTok gan gwmni ByteDance o Tsieina fel bygythiad i ddiogelwch cenedlaethol.
Mae'r cwmni wedi gwneud cais cyfreithiol munud olaf i atal y gwaharddiad am ei fod yn anghyfansoddiadol, gan ddadlau ei fod yn groes i ryddid barn.
Ond ddydd Gwener gwrthododd Goruchaf Lys yr UDA apêl TikTok, gan gadarnhau’r gyfraith fydd yn gwahardd yr ap.
Pryder am incwm
Mae TikTokers yn y DU, sy'n creu cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol am fywoliaeth, wedi mynegi eu pryderon ynghylch sut y gallai'r gwaharddiad arfaethedig effeithio ar eu hincwm.
Mae Aidan Halling yn creu cynnwys ar gyfer ei 30,000 o ddilynwyr, ac mae'n poeni y gallai y gwaharddiad effeithio'n sylweddol ar ei incwm.
“Mae llawer o grewyr yn dibynnu ar yr ap hwn am eu bywoliaeth, ac mae ar fin cael eu tynnu oddi arnyn nhw,” meddai wrth asiantaeth newyddion PA.
“Gallai’r gwaharddiad hwn fy ngorfodi i droi at gynnwys gwahanol neu roi’r gorau i bostio’n gyfan gwbl.
“Tra bod 15% o fy nilynwyr yn Americanwyr, mae tua 40% o’r golygfeydd fideo cychwynnol yn dod o’r Unol Daleithiau.”
Mae Tom Pratt, yn creu cynnwys ar yr ap ac mae'n rhyngweithio â defnyddwyr ar-lein - Americanwyr yn bennaf.
“Mae’r Unol Daleithiau fel gwlad mor bwerus a mawr ac nid wyf yn credu y gall TikTok ddal i fynd os nad oes defnyddwyr Americanaidd ar yr ap,” meddai Mr Pratt, sydd â mwy na 220,000 o ddilynwyr ar TikTok.
“Rwy’n credu y bydd yn newid yn anffodus i ap arall, sy’n gas gen i, oherwydd rydw i wrth fy modd gyda TikTok.”