Merch o Aberteifi'n anelu am y Gemau Paralympaidd ar ôl dysgu cerdded eto
Mae merch ifanc o Aberteifi yn anelu i gyrraedd y Gemau Paralympaidd ar ôl iddi golli ei choes a dysgu sut i gerdded eto.
Pan oedd hi'n naw oed, cafodd Mia Lloyd, sy'n 17 oed bellach, ddiagnosis o ganser Osteosarcoma, sef canser ar yr asgwrn.
Cafodd 10 rownd o gemotherapi, ac yn y pendraw, bu’n rhaid iddi golli ei choes.
“Roedd e’n amser rili rili anodd i fi a fy nheulu’, meddai Mia wrth siarad â Newyddion S4C.
Mae Osteosarcoma’n fath o ganser ar yr esgyrn sydd gan amlaf yn effeithio ar blant a phobl ifanc.
“Gorfes i ddysgu sut i gerdded eto, ond dwi bellach wedi dechrau cystadlu mewn athletau yn taflu’r ddisgen.”
Enillodd Mia wobr ‘The Inspiring Person of the Year Award’ gan Chwaraeon Cymru yn 2019 wedi ei brwydr yn erbyn y cancr.
Erbyn hyn, mae hi’n anelu at Gemau’r Gymanwlad a’r Gemau Paralympaidd.
'Mor ddiolchgar' i’r brodyr Croft
Ar 18 Ionawr, bydd Ioan a Garan Croft, y bocswyr proffesiynol o Grymych, yn cynnal noson er mwyn codi arian ar gyfer Mia, er mwyn sicrhau fod ganddi’r holl gyfarpar a’r adnoddau angenrheidiol er mwyn parhau i gystadlu.
Mae Mia eisoes wedi cynrychioli Cymru wrth chwarae pêl-fasged cadair olwyn a chynrychioli ei gwlad hefyd yng nghystadleuaeth y F42-22/F61-64 disgen i fenywod yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad, lle daeth hi'n bedwerydd.
“Dw’'n rili edrych mlan at y noson gyda Ioan a Garan Croft, a dwi mor ddiolchgar am eu caredigrwydd” medd Mia.
“Bydd yr arian yn helpu fi i deithio i gystadleuthau ac aros dros nos, am eu bod nhw’n bell o adref”
Gan fod Mia yn newid ei ffordd o daflu'r ddisgen, mae hyn yn golygu y bydd angen coes newydd benodol ei siap arni ar gyfer cystadlu yng nghystadlaethau’r ddisgen.
Os na fydd hynny’n bosib o dan y Gwasanaeth Iechyd, “bydd rhaid i fi dalu amdano fy hun," meddai.
‘Y freuddwyd’
I Mia, cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Gemau Paralympaidd yw’r "freuddwyd."
"Dwi wedi caru chwaraeon erioed, a dyna’r un peth oedd yn cael fi trwy gyfnod anodd iawn yn fy mywyd."
Symud i Gaerdydd yw’r cam nesaf i Mia, er mwyn astudio yn y brifysgol, law yn llaw â pharhau i ymarfer ei champ.
Mae'n awyddus i fachu ar pob cyfle posib er mwyn cael y “mwyaf o brofiadau” ag sy’n bosib, yn enwedig mewn cystadlaethau rhyngwladol.
"Fi 'di gallu dod yn arfer a chystadlu ar lefel uwch ond yn bwysicach na dim, i gynrychioli fy ngwlad," meddai.