Cynllun fferm wynt yn Sir Gâr yn cael ei dynnu'n ôl
Mae cynllun am fferm wynt yn Sir Gâr wedi cael ei dynnu’n ôl.
Mae cwmni Bute Energy wedi tynnu cais am 13 o dyrbinau ym Mharc Egni Nant Ceiment, tua thair milltir y tu allan i Lanbedr Pont Steffan, oherwydd “heriau amgylcheddol, masnachol a thir” oedd yn “unigryw i Nant Ceiment.”
Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn adolygiad manwl yn ystod arolygon ac asesiadau cynnar, gan hefyd ystyried gofynion cynllunio.
Fe wnaeth adolygiad o’r data ganfod heriau posib ar y safle a fyddai wedi cael “effaith sylweddol ar hyfywedd hir-dymor” y fferm wynt.
Mae’r cwmni yn dweud “ei fod bob amser yn ceisio cyflwyno ceisiadau o'r safonau uchaf, sydd nid yn unig yn cydymffurfio â pholisi cynllunio ond sydd o fudd i'r amgylchedd lleol a phobl leol.”
Dywedodd Daniel Wills, uwch reolwr prosiect Bute Energy: “Mae hwn yn enghraifft o system gynllunio Cymru ar waith, gan sicrhau mai dim ond y ceisiadau cywir a gorau sy'n cael eu hystyried.
“Hoffem estyn ein diolch i bawb sydd wedi gweithio gyda ni i ddatblygu ein ceisiadau hyd yn hyn.”
'Niferoedd'
Mae rhai sydd wedi gwrthwynebu’r prosiect wedi croesawu’r datblygiad.
Dywedodd un ymgyrchydd, James Holt, sydd yn byw dair milltir o’r safle arfaethedig: “Rydw i’n falch iawn. Mae’r syniad fod yna dyrbinau 230m o uchder yn edrych dros Gwm Teifi yn fy nychryn.”
Mae Bute Energy wedi bod yn gweithio ar gynlluniau am 14 o ffermydd gwynt, gyda’r mwyafrif yng nghanolbarth Cymru.
Fe fyddai fferm wynt Nant Ceiment wedi cynhyrchu digon o egni i gyflenwi trydan i 61,100 o gartrefi, yn ôl y cwmni.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gosod targed i gynhyrchu ynni adnewyddadwy sydd yn gyfartal â 100% o ddefnydd trydan Cymru erbyn 2035.
Fe wnaeth adroddiad yn 2023 amcangyfrif fod yn ffigwr yn 53% ar y pryd.
Dywedodd y Cynghorydd Denise Owen, sy’n cynrychioli ardal Llanybydder, fod sawl person yn ei hardal o blaid prosiectau gwyrdd, ond yn pryderu am effaith isadeiledd peilonau.
“Y niferoedd yw e, dyna’r cyfan,” meddai. “A ni fyddai unrhyw un yn becso os taw’r ceblau’n mynd o dan y ddaear. Rwy’n gobeithio mai dyma’r ddechrau o ychydig bach o synnwyr.
“Mae’n rhaid i ni wneud rhywbeth i’r blaned – mae pawb yn cydnabod hynny. Mae Cyngor Sir Gâr wedi datgan argyfwng hinsawdd. Ond mae’n rhaid i ni ystyried yr hyn sydd gan bobl i’w ddweud.
“Sa’ i ddim yn berson “nid yn fy ngardd gefn i”, ond rwyf yn “nid gymaint yn fy ngardd gefn.”