Môn: Cynghorwyr yn cefnogi eithriad treth cyngor i bobl â salwch diwedd oes

salwch diwedd oes / Gary Pritchard

Mae cynghorwyr ar Ynys Môn wedi cefnogi cynnig i eithrio pobl â salwch diwedd oes rhag talu treth y cyngor.

Fe wnaeth pwyllgor gweithredol Cyngor Môn gytuno i argymhellion i newid y polisi ar dreth y cyngor.

Byddai'r newid yn golygu disgownt o 100% i gartref lle mae person sydd â salwch diwedd oes yn byw ynddo.

Bydd y mesur yn anelu i gynnig "cymorth ariannol i drigolion yn ystod gofal diwedd oes i leddfu caledi."

Dywedodd adroddiad y byddai'r newid yn cael "effaith positif arwyddocaol gan fod salwch diwedd oes yn aml yn arwain at lai o incwm a chostau cynyddol."

Ychwanegodd y pwyllgor y dylai'r polisi ddod i rym ar 1 Ebrill a bod y Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau yn gweithio i roi'r cynllun ar waith.

Bydd y cyngor yn pleidleisio ar y newid i'r polisi yng nghyfarfod llawn nesaf y cyngor ar 5 Mawrth.

'Un baich yn llai'

Dan y cynlluniau byddai'r disgownt 100% yn para hyd at flwyddyn.

Os ydy'r person sydd â salwch diwedd oes yn marw yn ystod y cyfnod yma, byddai'r disgownt yn cael ei ymestyn am ddeufis er mwyn rhoi cymorth i'r teulu.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Gary Pritchard, bod y cyngor yn "fwy na pharod" i gynnig y mesur i drigolion ar yr ynys sydd â salwch diwedd oes.

"Hoffwn ddiolch i'r Cynghorydd Jeff Evans wnaeth ddod â'r mater i fy sylw," meddai.

"Fe ddaeth i fy ngweld ar ôl gweld yn y wasg bod cyngor Manceinion wedi mabwysiadu polisi tebyg, gyda chanllawiau Marie Curie.

"Rydw i'n hapus iawn ein bod ni fel cyngor wedi gallu gweithio ar hwn a'i gymeradwyo.

"Mae cael un baich yn llai yn ystod blwyddyn olaf bywyd person yn rhywbeth rydym yn fwy na pharod i'w ganiatáu fel cyngor."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.