Newyddion S4C

Cabinet Israel yn cymeradwyo cadoediad Gaza a chytundeb rhyddhau gwystlon

Cabinet Israel

Mae llywodraeth Israel wedi cymeradwyo’r cytundeb newydd ar gyfer cadoediad yn Gaza a rhyddhau gwystlon gyda Hamas, gan baratoi’r ffordd iddo ddod i rym ddydd Sul.

Daeth y penderfyniad ar ôl oriau o drafodaethau a barhaodd yn hwyr i'r nos. Pleidleisiodd wyth gweinidog yn erbyn y cytundeb gyda 24 arall yn bwrw pleidlais o'i blaid.

Roedd y cabinet diogelwch wedi argymell yn gynharach y dylid cadarnhau’r cytundeb, gan ddweud ei fod “yn cefnogi cyflawni amcanion y rhyfel”, yn ôl swyddfa’r Prif Weinidog Benjamin Netanyahu.

Fe fydd telerau’r cytundeb yn dod i rym yn swyddogol am 08:30 amser lleol (06:30 GMT) ddydd Sul, meddai Qatar a oedd wedi hwyluso’r trafodaethau.

O dan delerau’r cytundeb, bydd 33 o wystlon Israel sy’n dal i gael eu cadw gan Hamas yn Gaza yn cael eu cyfnewid am gannoedd o garcharorion Palesteinaidd yng ngharchardai Israel yn ystod y cyfnod cyntaf sy’n para chwe wythnos.

Bydd lluoedd Israel hefyd yn tynnu'n ôl o ardaloedd poblog iawn yn Gaza, bydd Palestiniaid sydd wedi'u dadleoli yn cael dechrau dychwelyd i'w cartrefi a bydd cannoedd o lorïau cymorth yn cael eu caniatáu i'r diriogaeth bob dydd.

Image
Gaza

Fe fydd trafodaethau ar gyfer yr ail gam - a ddylai weld y gwystlon sy'n weddill yn cael eu rhyddhau - yn arwain at filwyr Israel yn tynnu'n ôl yn llawn ac "adfer tawelwch cynaliadwy" - yn dechrau ar yr 16eg diwrnod.

Bydd y trydydd cam a'r cam olaf yn cynnwys ailadeiladu Gaza - rhywbeth a allai gymryd blynyddoedd - a dychwelyd unrhyw gyrff gwystlon sy'n weddill.

Cafodd 251 o wystlon eu cipio a'u cludo i Gaza yn dilyn cyrch ar dir Israel ar 7 Hydref 2023, pan laddwyd oddeutu 1,200 o bobl.

Y gred yw bod 94 o wystlon yn parhau yn nwylo Hamas, gyda 34 o'r rheiny bellach wedi marw.

Yn dilyn y cyrch milwrol, fe lansiodd lluoedd Israel ymosodiad milwrol ar Gaza, gan arwain at tua 46,000 o farwolaethau o fewn y diriogaeth yn ôl yr awdurdodau iechyd yn Gaza, sydd o dan weinyddiaeth Hamas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.