'Gêm llawn angerdd': Caerdydd ac Abertawe yn cwrdd yn narbi de Cymru
Fe fydd Caerdydd ac Abertawe yn chwarae yn erbyn ei gilydd mewn gêm "fydd llawn angerdd" yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Dyma'r eildro i'r clybiau gwrdd yn narbi de Cymru y tymor hwn, 1-1 oedd canlyniad y gêm flaenorol rhwng y clybiau ym mis Awst.
Mae'r Elyrch yn safle 12 yn y Bencampwriaeth tra bod Caerdydd yn eistedd yn safle 21, un safle uwchben y safleoedd disgyn.
Un gêm ddarbi yn unig mae Caerdydd wedi ei ennill yn y pedwar tymor diwethaf, tra bod Abertawe wedi ennill pump.
Wrth siarad cyn y gêm, sydd yn cychwyn am 12:30, dywedodd rheolwr Caerdydd, Omer Riza fod ei chwaraewyr yn cydnabod pwysigrwydd yr achlysur.
"Dwi'n gyffrous iawn, dwi'n gwybod faint mae'n ei olygu i bawb yn y clwb, mae'n gêm enfawr ac rydym yn edrych ymlaen ati," meddai.
"Rydym yn deall pwysigrwydd y gêm, gêm gyfartal oedd y canlyniad oddi cartref ac roedd y perfformiad yn Abertawe yn dangos pwysigrwydd y gêm i ni.
"Mae'r gêm yn wahanol i unrhyw un arall ac fe fyddwn yn barod."
Dyma fydd trydedd gêm Luke Williams yn erbyn Caerdydd fel rheolwr Abertawe.
Enillodd y gyntaf 2-0 a'r gêm gyfartal ar ddechrau'r tymor oedd ei ail.
Mae'n disgwyl gêm ffyrnig ac yn cydnabod fod y gystadleuaeth yn wahanol i bob un gêm arall yn y tymor.
"Dwi'n disgwyl i fy chwaraewyr fod yn ffyrnig a bod ganddyn nhw ddigon o gymhelliant ar gyfer y gêm," meddai.
"Sut mae hynny'n edrych o ran faint o'r bêl fydd gennym, dydw i ddim yn gwybod. Ond dwi yn gwybod bydd fy chwaraewyr mewn cyflwr meddyliol dwys iawn.
"Mae emosiwn gwahanol gyda'r darbi, a does dim pwynt cuddio oddi wrth hynny. Does dim pwynt esgus ei fod fel pob un gêm arall, dydy hi ddim."
Cefnogwyr yn 'chwarae rhan'
Mae cyfyngiadau teithio i gefnogwyr mewn lle ar gyfer darbi de Cymru.
Mae'r cyfyngiadau yn golygu bod rhaid i gefnogwyr deithio ar fysiau o un stadiwm i'r llall, cyrraedd stadiwm y gwrthwynebwyr rai oriau cyn i'r gêm gychwyn ac mae llai o docynnau ar gael i'r clwb oddi cartref.
Dyma'r unig gêm ym Mhrydain lle mae cyfyngiadau o'r math mewn grym.
Dywedodd Luke Williams fod y cefnogwyr yn gallu chwarae rhan fawr.
"Efallai ei fod yn swnio bach fel cliché, ond rydych chi'n meddwl beth allai'r cefnogwyr wneud.
"Dwi eisiau iddyn nhw fynd allan ar ôl y gêm yn hapus a wir mwynhau. Dwi eisiau iddyn nhw gael dyddiau i ddathlu buddugoliaeth.
"Dwi'n caru meddwl amdanynt yn llawen i gyd, yn teithio 'nôl i Abertawe a mynd allan i ddathlu, ail-fyw'r gêm a chanu. Dyna'r teimlad gorau."
Mae Omer Riza hefyd yn cydnabod effaith y cefnogwyr, ac yn disgwyl i gefnogwyr Caerdydd wneud hi'n anodd i Abertawe,
"Fydd llawer o gefnogwyr i'n chwaraewyr a bydd hynny'n ei wneud yn anodd i Abertawe. Fe fydd awyrgylch dda fydd yn anodd i'w anwybyddu.
"Fe fydden nhw'n ategu at y gêm, gêm sydd llawn angerdd, awydd a strategaeth."
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans