Newyddion S4C

Miloedd heb gyflenwad dŵr yn Sir Conwy ar ôl i bibell ddŵr fyrstio

17/01/2025

Miloedd heb gyflenwad dŵr yn Sir Conwy ar ôl i bibell ddŵr fyrstio

Ers pnawn ddoe, mae Dwr Cymru wedi bod yn gweithio i drwsio'r bibell ar safle Bryn Cowlyd yn Nolgarrog ar ol iddi fyrstio, gan achosi i 8,000 o gartrefi golli'u cyflenwad dwr dros nos.

Mae miloedd yn rhagor yn wynebu problemau gyda'r sefyllfa yn effeithio ar rannau helaeth o Sir Conwy.

Roedd Ysgol Aberconwy ymhlith nifer o ysgolion y sir oedd ynghau Heddiw a rhai meddygfeydd a llyfrgelloedd wedi methu ag agor eu drysau.

Mae'n ddistawach na'r arfer yma ar y stryd fawr yng Nghonwy.

Mae nifer o'r busnesau wedi gorfod cau oherwydd bod dim dwr a'n dweud mai'r peth mwya' rhwystredig ydy nad ydyn nhw'n gwybod pryd fydd y cyflenwad yn ol.

Roedd drysau'r caffi yma ar agor, ond dim modd cael paned gynnes.

"Fel arfer, does dim lle i barcio yma. D'on i methu deal pam bod digon o le heddiw.

"Mae 'di effeithio ar bob math o siopau - siopau dillad a chaffis. Mae'n mynd i effeithio ar lot o bobl."

"Does 'na'm dwr i gael paned. Mae cymaint o fusnesau'n cael eu heffeithio.

"Bydd rhaid cyd-dynnu a helpu'n gilydd."

Mae'r sefyllfa wedi achosi pryder i ffermwyr yr ardal hefyd a'r cynghorydd sir yma yn eu plith.

"Adeg yma'r flwyddyn, mae llawer iawn efo stoc i fewn.

"Os 'di'r dwr i ffwrdd, does dim darpariaeth. Fedran nhw ddioddef am ddiwrnod.

"Maen nhw isio dwr cyn fory, neu fydd rhaid troi nhw allan neu chwilio am gyflenwad arall."

Os ga i ofyn i chi roi'ch cap Cynghorydd Sir ymlaen.

Sut mae'r ymdrechion o ran helpu trigolion lleol?

"Mae'r Bwrdd Dwr yn gweithio'u gorau i ddatrys y broblem. Ond mae diffyg gwybodaeth o ran ba mor hir fydd y dwr i ffwrdd.

"Mae angen penderfynu oes angen cael cyflenwad o ddwr yfed i'r gymuned.

"Trio cael trefn os bydd hyn yn hirdymor."

Yn ol Dwr Cymru, y flaenoriaeth yw cael cyflenwadau dwr allan i'r trigolion mwya' bregus o ganolfannau dosbarthu fel yr un yma ym Mharc Eirias.

"Gall gymryd dros 48 awr i gael y gyflenwad yn ol i bawb. Yn gyntaf, rhaid ffocysu ar drwsio'r bibell wedyn sicrhau gallwn ail-lenwi'r rhwydwaith mor fuan a phosib.

"Rhaid sicrhau bod y cyflenwad o'r safon uchel fel dwr yfed i'n cwsmeriaid."

Ond, i'r rhai mwya' bregus mae bod heb ddwr am gyfnod estynedig yn bryder mawr.

"'Dan ni'n gorfod mynd yn bell i brynu dwr.

"Does neb yn cyfathrebu efo ni o gwbl i ddeud pryd ddaw'r dwr yn ol neu ydan ni am gael dwr o rywle arall.

"Dydy o ddim yn foddhaol."

Yn ol Dwr Cymru, mae'r gwaith atgyweirio yn cymryd yn hirach na'r disgwyl oherwydd bod y bibell ddwy fetr a hanner dan wely'r afon.

Yn y cyfamser, mae tanceri'n cael eu hanfon allan i geisio cadw cyflenwadau i fynd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.