Dyn o Fôn yn agor ffatri i gynhyrchu bariau siocled ag enwau Cymraeg
Dyn o Fôn yn agor ffatri i gynhyrchu bariau siocled ag enwau Cymraeg
Mae dyn o Fôn wedi agor ffatri yn Llangefni sy’n cynhyrchu bariau siocled sydd ag enwau Cymraeg.
Mae Richard Holt wedi creu a dylunio wyth bar siocled gwahanol. Mae ei ffatri siocled yn cynhyrchu 5,000 o fariau yn ddyddiol ar hyn o bryd, ond mae’n bwriadu dyblu hynny yn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd ei fod wedi cael y syniad ar ôl gorfod gwneud cynllun busnes ar gyfer ei arholiadau TGAU yn yr ysgol uwchradd - “ac 18 mlynedd wedyn, dyma ni!” meddai wrth Newyddion S4C.
Yn ôl Richard, mae’r Gymraeg wrth galon y cwmni: “Dwi mor hapus i fod wedi gallu dod a bariau siocled Cymraeg, i Gymru. Dwi’m yn meddwl bod neb yn gwneud hyn bellach, ond ie, mae’n kind of cool,” meddai.
“Mae ‘na lot o bobl yn gofyn i fi ‘pa mor bwysig ydi’r iaith Gymraeg i ti?’ ac i fi, jysd bywyd fi ‘dio - Cymraeg ydw i… dwi’n siarad Cymraeg, dyna ni, felly mae bob dim ‘da ni’n ‘neud yn mynd i fod yn ddwyieithog o leiaf’, neu jysd yn Gymraeg.”
“Pa mor cŵl fysa fo os fysa ‘na fariau Cymraeg yn cael eu gwerthu yn Lloegr?!”
Bydd y bariau siocled, sy’n cael eu gwerthu dan enw’r cwmni, Mr Holt’s, yn cael eu gwerthu mewn siopau lleol ac ar-lein.
Dywedodd: “’Da ni wrth ein boddau yn gwerthu i siopau lleol a helpu nhw… Pan mae ‘na rhywbeth newydd yn mynd allan, os ydyn nhw mewn siop leol, mae pawb yn mynd i’r siop yna ac ella’n prynu pethau eraill hefyd.”
Richard Holt sydd hefyd yn berchen ar Felin Llynon ar Ynys Môn, lle mae’n gwerthu cacennau a’i gynnyrch arall, Mônuts.
Dywedodd: “Dwi wedi rhedeg Melin Llynon ers pum mlynedd rŵan, ac i mi, ‘dwi wrth fy modd yn rhoi profiadau i bobl. Felly, wrth agor ffatri siocled, oedd rhaid i mi wneud rhywbeth ‘chydig bach yn immersive hefyd.
Ei obaith, meddai, ydi “i wneud rhyw fath o fyd Cadbury Cymraeg”, ac mae’n gobeithio ehangu ar y ffatri, a’i wneud “ugain gwaith maint yr un yma”.