Newyddion S4C

Menyw o Gaerdydd yn pledio'n ddieuog i fynegi cefnogaeth i Hamas

17/01/2025
Llys y Goron Bryste

Mae menyw o Gaerdydd wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o fynegi cefnogaeth i Hamas.

Fe wnaeth Kwabena Devonish, 26 oed, ymddangos yn Llys y Goron Bryste ddydd Gwener mewn gwrandawiad ple.

Mae hi wedi’i chyhuddo o fynegi barn neu gred sy’n gefnogol i fudiad gwaharddedig, sef Hamas, yn groes i Ddeddf Terfysgaeth 2000.

Cafodd ei chyhuddo o gyflawni'r drosedd yn Nhŷ William Morgan yn Sgwâr Canolog, Caerdydd ar 11 Tachwedd 2023.

Yn ystod gwrandawiad byr, fe atebodd Devonish gyda'r gair “dieuog” pan gafodd y cyhuddiad ei ddarllen iddi.

Ar ran yr erlyniad, dywedodd Diana Wilson wrth y llys fod disgwyl i achos llys bara hyd at bedwar diwrnod ac fe fydd yn cael ei gynnal ar 18 Awst.

Cafodd Devonish ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Llun: Wikimedia/RedSquirrel
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.