Newyddion S4C

Wfftio trethi fel ffordd o ariannu’r BBC

17/01/2025
Lisa Nandy

Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant Lisa Nandy wedi wfftio'r awgrym o ddefnyddio trethi i ariannu'r BBC.

Mae’r ffi drwydded yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd i ariannu'r BBC ac S4C, ond mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod nhw eisiau cael gwared o'r ffi.

Dywedodd Lisa Nandy nad oedd y ffi drwydded bellach “yn ddigonol” er mwyn codi’r arian.

“Nid yw’n codi digon o arian i gefnogi'r BBC ac nid yw’n ffordd flaengar o godi arian o gwbl,” meddai wrth BBC Breakfast.

Dywedodd fod yna “ystod o ddewisiadau amgen” yr oedd gweinidogion yn eu hystyried, ond ychwanegodd: “D'yn ni ddim wedi ymrwymo i unrhyw un ohonynt”.

“Rwy’n credu mai’r un y mae pobl wedi bod yn dyfalu fwyaf amdano yw [ariannu’r BBC o] drethi cyffredinol," meddai.

“Dyw hynny ddim yn rhywbeth yr ydyn ni’n ei ystyried, yn bennaf oherwydd ein bod am wneud yn siŵr ein bod yn amddiffyn y BBC rhag y math o ymyrraeth wleidyddol a welsom o dan y llywodraeth ddiwethaf.”

Dywedodd Lisa Nandy fod model tanysgrifio ymhlith yr opsiynau oedd ar ôl wedi iddyn nhw ddiystyru trethiant cyffredinol.

Ond ychwanegodd: “Mae hefyd yn gadael ystod eang o opsiynau y mae’r Pwyllgor Dethol Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi bod yn eu harchwilio dros y blynyddoedd diwethaf.

“Mewn gwledydd eraill yn Ewrop, maen nhw’n dod o hyd i ffyrdd gwahanol o godi arian.

“Yn Ffrainc, er enghraifft, mae ganddyn nhw dreth ar sinemâu. 

“Dydw i ddim yn ymrwymo i unrhyw un o’r pethau hyn ar hyn o bryd.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.