Arwyddo cytundeb cadoediad rhwng Israel a Hamas yn swyddogol
Mae cytundeb rhwng Israel a Hamas a fydd yn arwain at gadoediad chwe wythnos wedi ei arwyddo yn swyddogol.
Mae cynrychiolwyr Israel, Hamas, yr Unol Daleithiau, a Qatar wedi arwyddo’r cytundeb yn swyddogol yn Doha.
Bydd 33 o wystlon Israel yn cael eu cyfnewid am garcharorion Palesteinaidd fel rhan o'r cytundeb.
Dywedodd Prif Weinidog Qatar Sheikh Mohammed bin Abdul Rahman Al Thani y bydd y cytundeb yn dod i rym ddydd Sul.
Daw wedi i Brif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, ohirio pleidlais o’i gabinet i gymeradwyo’r cytundeb ddydd Iau gan gyhuddo Hamas o geisio gwneud newidiadau munud olaf.
Dywedodd swyddfa Benjamin Netanyahu fore dydd Gwener bod cytundeb “wedi ei gytuno”.
Dywedodd ei swyddfa y bydd yn dod a’i gabinet ym maes diogelwch ynghyd ddydd Gwener “i gymeradwyo'r cytundeb".
Mae dau weinidog, Itamar Ben Gvir a Bezalel Smotrich, wedi bygwth ymddiswyddo o ganlyniad i’r cytundeb.
Dywedodd y ddau na fyddwn nhw’n ceisio tynnu’r llywodraeth i lawr ar yr amod bod y rhyfel yn ail-ddechrau mewn chwe wythnos.
Cyhoeddwyd y cytundeb cadoediad gyntaf ddydd Mercher gan gyfryngwyr yr Unol Daleithiau a Qatar.
Mae mwy na 46,788 o bobol wedi’u lladd yn Gaza ers dechrau’r rhyfel, yn ôl gweinidogaeth iechyd y diriogaeth sy’n cael ei rhedeg gan Hamas.
Mae o leiaf 87 o Balesteiniaid hefyd wedi eu lladd, gan gynnwys 21 o blant a 25 o fenywod, mewn ymosodiadau gan Israel ar Gaza ers cyhoedd'r cytundeb cadoediad medden nhw.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden, a fydd yn gadael y swydd ddydd Llun, fod yn rhaid i’w “ffrind” Netanyahu “ddod o hyd i ffordd i ddarparu ar gyfer” y Palestiniaid.
“Mae’r syniad bod Israel yn mynd i allu ei chynnal ei hun am y tymor hir heb ddatrys cwestiwn Palestina… dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd,” meddai wrth MSNBC.
“Ac fe wnes i atgoffa fy ffrind o hyd, ac mae’n ffrind, er nad ydym yn cytuno llawer iawn yn ddiweddar, Bibi Netanyahu, bod yn rhaid iddo ddod o hyd i ffordd i ddatrys pryderon dilys grŵp mawr o bobl o’r enw'r Palestiniaid, sy’n heb le i fyw yn annibynnol,” meddai.