Sir Benfro: Cau rhan o lwybr arfordirol unwaith eto wedi tirlithriad arall
Mae rhan o lwybr arfordirol yn Sir Benfro wedi cau unwaith eto yn dilyn sawl tirlithriad yn yr ardal dros yr wythnos diwethaf.
Fe gafodd y llwybr ger Llanusyllt ei gau yn dilyn problemau tebyg diwedd 2023 a chynnar yn y flwyddyn yn 2024.
Mae tirlithriadau ger pen gorllewinol Wisemans Bridge tuag at lwybr seiclo Coppet Hall bellach wedi effeithio ar fynediad rhwng Wisemans Bridge a thraeth Coppet Hall.
Mae Cyngor Sir Benfro wedi derbyn cyngor gan arbenigwyr i gau rhan o’r llwybr nes bod modd ei drwsio.
Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro fe allai’r tywydd gaeafol o bosib fod wedi chwarae rhan yn y tirlithriad, sydd wedi golygu bod nifer o greigiau wedi cwympo ar hyd y llwybr.
Dywedodd y llefarydd bod y cyngor bellach yn ystyried adolygu’r rhesymau a achosodd creigiau i gwympo yno, yn ogystal â’r gwaith atgyweirio “angenrheidiol” sydd ei angen.
Ond maen nhw wedi rhybuddio y byddai’r gwaith hyn yn debygol o gymryd “misoedd.”
Roedd Cabinet Cyngor Sir Benfro wedi cymeradwyo gwaith cynnal a chadw gwerth tua £600,000 ar y llwybr mis Mawrth diwethaf.
Roedd yr awdurdod yn gobeithio y byddai’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn gwyliau’r haf y llynedd.
Ond roedd “gwaith ychwanegol” – gan gynnwys mynd i’r afael â thirlithriad arall a ddigwyddodd – wedi golygu nad oedd modd ail agor y llwybr tan ddechrau mis Awst.