Newyddion S4C

Yr actor Paul Danan wedi marw'n 46 oed

16/01/2025
Paul Danan

Mae'r actor Paul Danan wedi marw yn 46 oed.

Fe ddaeth i enwogrwydd yng nghyfres boblogaidd Hollyoaks ar Channel 4, gan actio'r cymeriad Sol Patrick rhwng 1997 a 2001.

Yn ddiweddarach roedd yn adnabyddus am ymddangos ar raglenni teledu realiti poblogaidd.

Dywedodd datganiad gan asiantaeth oedd yn ei reoli, Independent Creative Management, wrth asiantaeth newyddion PA ddydd Iau: “Gyda chalonnau trwm rydym yn rhannu’r newyddion trasig am farwolaeth Paul Danan yn ddim ond 46 oed.

“Yn adnabyddus am ei bresenoldeb teledu, dawn eithriadol, a charedigrwydd enfawr, roedd Paul yn ffagl o oleuni i gymaint o bobl.

“Bydd ei ymadawiad yn gadael gwagle anferth ym mywydau pawb oedd yn ei adnabod.

“Yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydyn ni’n gofyn yn garedig am barch a phreifatrwydd i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Paul.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.