Ymchwilio i achos honedig o sbeicio mewn bar yn Nhŷ'r Cyffredin
16/01/2025
Mae'r heddlu yn ymchwilio i achos honedig o sbeicio mewn bar yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywedodd Heddlu'r Met eu bod wedi "derbyn adroddiadau o sbeicio honedig mewn bar yn Nhŷ'r Cyffredin ar 7 Ionawr am tua 18.30".
Mae'r safle yn gwerthu diodydd i Aelodau Seneddol, staff Tŷ'r Cyffredin a gwesteion.
Ychwanegodd y llu bod y dioddefwr yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbennig.
Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yma.