Rhybudd melyn am niwl yn y de ddwyrain
16/01/2025
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am niwl yn ne ddwyrain Cymru nos Fercher a bore Iau.
Mae'r rhybudd melyn mewn grym rhwng 20.00 nos Fercher ac yn parhau tan 11.00 dydd Iau.
Gallai hyn arwain at amodau gyrru gwael ar y ffyrdd, gyda'r niwl yn drwchus mewn rhai mannau.
Mae'n bosib na fydd teithwyr yn gallu gweld ymhellach na 100 medr mewn mannau, ac mae gyrwyr yn yr ardaloedd dan sylw yn cael eu cynghori i addasu eu cyflymder.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai'r niwl effeithio ar deithiau trenau a theithiau awyrennau o feysydd awyr hefyd.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:
- Caerdydd
- Caerffili
- Bro Morgannwg
- Casnewydd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Fynwy
Torfaen