Llai o ddisgyblion ysgol yn dysgu ieithoedd Ewropeaidd
Llai o ddisgyblion ysgol yn dysgu ieithoedd Ewropeaidd
Mae llawer llai o ddisgyblion ysgol Cymru'n dysgu ieithoedd Ewropeaidd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae’r nifer o ddisgyblion sy’n astudio Ffrangeg TGAU wedi mwy na haneru mewn bron i ddegawd, gydag ieithoedd modern eraill hefyd fel Sbaeneg ac Almaeneg hefyd yn gweld niferoedd yn disgyn yn sylweddol ers 2015. Mae’r nifer sy’n astudio Lefel A yn dilyn yr un patrwm.
Yn ôl un athrawes, mae Brexit a Covid wedi chwarae rhan ac mae’n her hefyd recriwtio athrawon newydd yn ol rhai ym myd addysg.
Cydnabod y cwymp mae Llywodraeth Cymru, ond yn dweud bod gan ddisgyblion hawl i ddysgu un iaith ryngwladol a’u bod yn ceisio denu mwy o athrawon ieithoedd i’r proffesiwn.
Fel sawl ysgol erbyn hyn, un iaith dramor sy’n cael ei chynnig yn ysgol Llangynwyd, a’r Sbaeneg yw’r iaith honno.
“Maen nhw’n meddwl gyda'u hannibyniaeth nhw yn ystod Covid a gyda thechnoleg a phethe felly, mae’r plant ddim yn gweld y cyfleon sydd ar gael iddyn nhw i deithio a mynd tu hwnt i ble maen nhw’n byw,” meddai Angharad David, Pennaeth Sbaeneg Ysgol Llangynwyd.
Brexit 'wedi cael effaith'
“Mae Brexit efallai wedi cael effaith fan 'na. Y ffaith bod ni ddim yn yr Undeb Ewropeaidd ragor, efallai mai plant yn ei gweld hi’n ddi bwynt i astudio iaith.
“Bydden i’n bendant yn gofyn i brifysgolion ac unrhyw asiantaethau fel Taith, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi ar hyn o bryd, eich bod chi’n codi’r statws o’r cyfleoedd sydd ar gael i blant”
Mae’r niferoedd sy’n astudio Almaeneg hefyd wedi disgyn o 1,007 i 468 ar gyfer cofrestriadau TGAU.
Mae angen newid meddylfryd yma ym Mhrydain, yw neges un o Flaenau Ffestiniog sydd wedi dilyn gyrfa dros y byd. Mae Elin Roberts bellach yn gweithio ar y cyfandir ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol.
“Dy’n ni’n meddwl fod ieithoedd yn wastraff o amser,” meddai.
“Mae’r meddylfryd yn Ffrainc yn wahanol. Mae nhw yn pwsho y pynciau STEM ond maen nhw hefyd yn gwthio'r pynciau ieithoedd hefyd.
“Os ydych chi’n edrych ar yr ysgolion peirianneg yn Ffrainc, mae bobl yn dod allan efo peirianneg ond mae nhw’n rhugl yn o leiaf Ffrangeg a Sbaeneg neu iaith arall.
“Felly dwi’n meddwl ‘da ni angen newid y ffordd ‘da ni’n meddwl bod ieithoedd yn allweddol."
Cyfle 'bythgofiadwy'
Mae ei rhuglder mewn Ffrangeg wedi cynnig cyfleoedd hynod fythgofiadwy i Elin tra roedd hi'n fyfyriwr prifysgol ym Mharis.
“Dwi’n cofio pan o’n i yn y brifysgol, es i’r L'Institut du Monde Arabe ‘ma a wnes i weld Francois Hollande (Cyn-Arlywydd Ffrainc) ac o’n i’n meddwl ‘ok dwi jest am neud google sydyn i weld os na fo ydi o go iawn’ a cymharu llun, a fo oedd o!
“Wnes i fyny ato fo i ddweud ‘helo, sut ‘da chi? Dwi hefyd yn fyfyriwr yn Sciences Po, be ydych chi’n feddwl o’r sefyllfa gwleidyddol ar hyn o bryd?’ a dyma fo’n dweud ‘o tyrd i eistedd lawr i gael brecwast efo fi, awn ni i’r caffi yn yr amgueddfa ‘ma’.
“Oedd o’n anhygoel, ac roedd y sgwrs yna i gyd mewn Ffrangeg ac y peth ydi,' swn i byth wedi cael y profiad yna mewn ffordd.
“Felly dwi’n meddwl fod y ffaith ‘da ni’n gallu siarad gwahanol ieithoedd yn dod a’r barrier ‘ma i gyd i lawr yn rili sydyn.”
Yn ôl Glesni Owen, sy’n gweithio ym maes addysg ac ieithoedd i MFL Mentora a Llwybrau at Ieithoedd Cymru, mae denu rhai i fyd addysg yn her..
“Yn anffodus ar y funud dim ond 12 o fyfyrwyr oedd yn astudio i fod yn athrawon ieithoedd rhyngwladol flwyddyn diwethaf felly mae’r niferoedd yn isel ar y funud,” meddai.
"Allan o’r 12 yna dwi’n meddwl mai dim ond un oedd yn siarad Cymraeg, felly mae yna broblem yn anffodus gyda recriwtio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n cydnabod bod gostyngiad wedi bod yn nifer y bobl sy'n astudio ieithoedd rhyngwladol ledled y DU. Fel rhan o'r Cwricwlwm i Gymru, mae pob dysgwr yn cael cyfle i ddysgu o leiaf un iaith ryngwladol ac i ddefnyddio ieithoedd y cartref ac ieithoedd cymunedol eraill y gallant eu siarad.
"Mae cyflwyno ieithoedd rhyngwladol yn yr ysgol gynradd yn gam pwysig tuag at ddatblygu dysgwyr y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymhellion amrywiol i ddenu mwy o athrawon ieithoedd tramor modern i'r proffesiwn.