Isafswm pris alcohol 'ddim wedi cael fawr o effaith' ar yfwyr trwm
Isafswm pris alcohol 'ddim wedi cael fawr o effaith' ar yfwyr trwm
Dydi cyflwyno isafswm bris ar alcohol yng Nghymru ddim wedi cael fawr o effaith ar rheiny sy’n yfed yn drwm ac sy’n ddibynnol arno, yn ôl arolwg newydd.
Mae’r adroddiad i Lywodraeth Cymru yn dweud bod cynyddu’r pris wedi arwain at rai pobol yn torri yn ôl ar brynu bwyd a pheidio talu biliau i allu parhau i brynu diodydd.
Cafodd y polisi o dalu o leiaf 50c am bob uned o alcohol ei gyflwyno ym mis Mawrth 2020.
Fe fydd y llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus nawr i drafod y camau nesaf.
Bwriad cyflwyno’r isafswm bris am alcohol oedd ceisio cael pobol oedd yn gor-yfed i yfed llai o alcohol oherwydd effaith hynny ar eu hiechyd.
Ond mae’r adolygiad gan Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn dangos nad yw’r polisi wedi newid llawer ar batrymau yfed pobol.
Mae’n dweud: “Ymddengys mai ychydig iawn o effaith y mae isafswm bris alcohol wedi’i chael ar batrymau yfed yfwyr dibynnol, ac effaith niweidiol ar yr yfwyr hynny sydd ag incwm isel.”
Effaith 'yn gymysg'
Mae’n dweud bod y polisi wedi bod yn effeithiol wrth gael gwared ag alcohol rhad, cryf, fel seidr gwyn, ond bod yr effaith yn ehangach yn fwy cymysg.
Mae’n awgrymu hefyd cynyddu’r pris am bob uned o alcohol o 50c i 65c.
Dywedodd Andrew Misell, cyfarwyddwr Cymru Alcohol Change UK: “Mae effaith amlycaf isafbris Cymru i’w gweld ar y diodydd rhataf, cryfaf – fel y “seidr gwyn” sydd yn aml yn ddewis ddiod gan yfwyr sy’n ddibynnol ar alcohol ers tro.
“A rhoi un enghraifft nodweddiadol, cyn yr isafbris roedd poteli 3-litr o seidr adnabyddus gyda chryfder o 7.5% ar werth yng Nghymru am £3.99. Gydag isafbris o 50c yr uned, ni ellid gwerthu’r botel yna – oedd yn dal 22.5 uned o alcohol – am lai na £11.25. Ar y fath bris, ni fyddai prin neb eu prynu.
“O ganlyniad, yn lle poteli 3-litr a 2-litr o seidr cryf ar y silffoedd mae caniau 500ml. Efallai nad yw hyn i’w weld yn newid arbennig o arwyddocaol, ond cam mawr yw e mewn gwirionedd tuag at leihau niwed.”
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy AS: “Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y ddeddfwriaeth wedi cael effaith ar werthu cynhyrchion alcohol rhad, cryfder uchel, a bod eu prisiau'n codi.
“Mae hyn wedi arwain at gwsmeriaid yn prynu llai o'r math hwn o gynnyrch a llai o fanwerthwyr yn ei stocio. Mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a helpu pobl yng Nghymru i yfed yn gyfrifol.”