Newyddion S4C

Carcharu saith dyn am 58 mlynedd am gyflenwi cocên o Abertawe

Ryan Morgan

Mae saith dyn wedi eu gyrru i garchar am gyfanswm o 58 mlynedd am eu rhan mewn cynllwyn i gyflenwi cocên.

Yn ystod yr ymchwiliad, daeth ditectifs o hyd i werth £500,000 o'r cyffur yn ardal Abertawe.

Arweinwyr y grŵp troseddol , oedd dau frawd; Ryan Morgan, 32, o Penlan, a Leon Morgan, 27, o Benllegaer. Cafodd Ryan Morgan ei arestio ym mis Rhagfyr 2023. Gyrrodd ei gar Range Rover yn fwriadol i mewn i gerbyd heddlu wrth geisio osgoi cael ei ddal. 

Yn Llys y Goron Abertawe, cafodd ei garcharu am 16 mlynedd, a cafodd ei frawd ddedfryd o 10 mlynedd. Cafodd pump dyn arall - pedwar o ardal Abertawe, ac un o Coventry - eu carcharu am rhwng 5 a 7 mlynedd yr un.

Roedd yn dilyn  ymchwiliad barodd 15 mis gan Tarian, yr uned sy'n ymchwilio i droseddu difrifol yn ne Cymru. Yn ogystal â chyffuriau, fe ddaethon nhw o hyd i ynnau hefyd.

Roedd y grwp yn cael y cocên o Ganolbarth Lloegr, ac yn teithio yno'n gyson. Roedden nhw'n defnyddio nifer o "dai diogel" yn ardal Abertawe i storio'r cyffuriau ac arfau, ac yn symud o dŷ i dŷ.

Wrth groesawu'r ddedfryd, dywedodd yr Arolygydd Vinnie Easton o Tarian: "Llwyddodd yr ymchwiliad trwyadl yma i ddod o hyd i gynllwyn cyffuriau sylweddol, ac mae'n enghraifft ardderchog o'r gwaith manwl sy'n cael ei wneud i atal y math yma o droseddu difrifol." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.