Newyddion S4C

Merch o Sir Benfro am fod y cyntaf ym Mhrydain i gael clust wedi ei brintio yn 3D

Mail Online 23/07/2021
Daily Mail

Mae disgwyl i ferch 10 oed o Sir Benfro fod y person cyntaf ym Mhrydain i dderbyn clust 3D wedi ei 'biobrintio'.

Mae hyn yn ffrwyth prosiect ymchwil gwerth £2.5m ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae gan Radiyah Miah gyflwr o'r enw microtia, sy'n golygu iddi gael ei geni gyda chlust chwith heb ei ffurfio'n iawn.

Mae'r ymchwilwyr yn dweud ei bod ar "dop y rhestr" i gymryd rhan yn y prosiect arloesol, fydd yn defnyddio sampl bychan o gelloedd cartilag, o bosib o'i thrwyn, i greu strwythur clust fewnol byw, yn ôl Mail Online.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.