Newyddion S4C

Porthladd Caergybi yn ail-agor yn rhannol

16/01/2025

Porthladd Caergybi yn ail-agor yn rhannol

Mae disgwyl i Borthladd Caergybi ail-agor yn rhannol ddydd Iau ar ôl bod ynghau am dros fis.

Bydd fferis yn teithio rhwng Cymru ac Iwerddon am y tro cyntaf ers dechrau mis Rhagfyr, pan gafodd y porthladd ei daro gan Storm Darragh.

Fe gafodd yr holl wasanaethau fferi yn y porthladd, sy’n eiddo i Stena Line, eu canslo cyn cyfnod y Nadolig ar ôl i dywydd stormus ddifrodi'r seilwaith.

Bu oedi wrth ddosbarthu parseli ac fe gafodd miloedd o bobl oedd yn teithio adref ar gyfer y Nadolig eu heffeithio.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Stena Line y byddai'r porthladd yn ailagor Terfynfa 5, yn amodol ar dywydd rhesymol, ar 16 Ionawr.

Cadarnhaodd y cwmni ddydd Mercher y byddai'r derfynfa yn ail-agor ddydd Iau.

"Rydym yn falch o gadarnhau y bydd gwasanaethau fferi yn gweithredu amserlen wedi’i haddasu," meddai llefarydd.

Mae fferis Stena Line ac Irish Ferries yn defnyddio'r porthladd ar gyfer gwasanaethau rhwng Cymru a'r Iwerddon

"Rydym yn bwriadu gweithredu amserlen lawn ar gyfer y ddau weithredwr fferi o Derfynfa 5 dros dro," meddai Stena.

"Felly, ni fydd capasiti’n cael ei golli, gydag wyth taith ddyddiol o’r porthladd ar draws y ddau weithredwr.

"Dros y dyddiau nesaf, yn ddibynnol ar dywydd ffafriol, byddwn yn cynnal treialon angori i baratoi ar gyfer ailddechrau'r gwasanaethau fferi."

Ychwanegodd y byddan nhw'n darparu diweddariad ar amserlen ar gyfer Terfynfa 3 "cyn gynted â phosibl".

'Parhau i gydweithio'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid.

"Roedd y cydweithrediad agos rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon wedi bod o gymorth mawr i gydlynu'r ymdrech hon, gyda'r Prif Weinidog yn cyfarfod â'r Taoiseach mor ddiweddar â dydd Gwener ddiwethaf," meddai.

"Roedd cydweithio a rhannu gwybodaeth mewn amser real yn llywio darpariaeth gwasanaethau amgen ac yn helpu i leihau effeithiau traffig cysylltiedig. 

"Rwyf yn ddiolchgar i adrannau a gweinidogion perthnasol Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a chyrff masnach am y rhan y maent wedi'i chwarae yn y dasg."

Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch i Stena am ei gwaith i ailagor Terfynfa 5 heddiw, er gwaethaf heriau tywydd tymhorol."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.