Newyddion S4C

Ystyried brechu anifeiliaid pe bai achos o glwy'r traed a'r genau yn y DU

Gwartheg

Mae Llywodraeth y DU yn ystyried brechu anifeiliaid pe bai achos o glwy'r traed a'r genau yn y DU, meddai'r Ysgrifennydd Amgylchedd.

Wrth siarad yn Nhŷ'r Cyffredin prynhawn dydd Mercher, dywedodd Daniel Zeichner fod gan Lywodraeth y DU gyflenwad o frechiadau i amddiffyn anifeiliaid rhag glwy'r traed a'r genau pe bai achos o'r clefyd yn y DU.

Ychwanegodd fod lefel y risg o'r clwy'n cyrraedd y DU bellach wedi ei godi i "cymhedrol".

Daw ei sylwadau yn dilyn achos o glwy'r traed a'r genau yn Yr Almaen - yr achos cyntaf o'r clefyd yn y wlad ers 35 o flynyddoedd.

Mae mewnforio gwartheg, moch a defaid o'r Almaen bellach wedi cael ei wahardd yn y DU er mwyn amddiffyn ffermwyr a'u bywoliaeth.

Bu'n rhaid difa miliwn o wartheg a defaid yng Nghymru oherwydd clwy'r traed a'r genau nôl yn 2001. Roedd yr achos diwethaf o'r clwy yng ngwledydd Prydain yn 2007. 

'Amddiffyn ffermwyr'

Wrth ymateb i gwestiwn yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Mr Zeichner y byddai Llywodraeth y DU yn gwneud "beth bynnag sydd ei angen" i amddiffyn ffermwyr.

"Pe bai achos yn cael ei ddarganfod yn y DU, yn ogystal â difa a rheoli symudiad anifeiliaid ar unwaith, mae brechu yn opsiwn a fydd yn cael ei ystyried gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a’r gweinyddiaethau datganoledig o’r cychwyn cyntaf," meddai.

"Gallaf hefyd sicrhau bod banc brechlynnau’r DU yn storio brechlynnau ar gyfer ystod o seroteipiau clwy’r traed a’r genau."

Ychwanegodd Mr Zeichner: "Mae Defra wedi cymryd camau cyflym i amddiffyn y DU, gan gynnwys atal mewnforio'r anifeiliaid sy’n agored i niwed yn yr Almaen, a chyfyngu ar fewnforion personol o gynhyrchion anifeiliaid o bob rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

"A gallaf sicrhau y bydd y Llywodraeth yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i amddiffyn ffermwyr ein cenedl rhag risgiau glwy’r traed a’r genau."

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine, fod gan Gymru "gynlluniau cadarn ar waith i reoli risg ac amddiffyn ffermwyr a'n diogelwch bwyd". 

"Mae hyn yn golygu defnyddio'r holl fesurau i gyfyngu ar y risg o ledaeniad y clefyd dinistriol hwn. Nid yw clefyd y traed a'r genau yn peri unrhyw risg i iechyd neu ddiogelwch bwyd," meddai.

"Rwyf hefyd am barhau i atgoffa ceidwaid da byw i gynnal y lefelau uchaf o fioddiogelwch a gwyliadwriaeth ac i brynu da byw a chynhyrchion cenhedlu o le cyfrifol a diogel i amddiffyn ein buchesi a diadellau a chadw clefydau anifeiliaid allan o Gymru."

Ychwanegodd: "Os ydych chi 'n amau clefyd y traed a'r genau, mae'n hanfodol rhoi gwybod am hyn ar unwaith."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.