Yr awdur a'r darlledwr Alun Gibbard wedi marw yn 65 oed
Mae’r awdur a’r darlledwr Alun Gibbard wedi marw yn 65 oed yn dilyn cyfnod o waeledd.
Roedd yn awdur toreithiog a oedd wedi cyhoeddi dros 35 o lyfrau, nifer ohonyn nhw yn fywgraffiadau a’n hunangofiannau wedi eu cyd-ysgrifennu.
Cyn ei yrfa fel awdur, bu’n gweithio ym myd darlledu am 26 mlynedd fel cynhyrchydd a chyflwynydd, ar y teledu a’r radio, i’r BBC, ITV ac S4C.
Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson at gylchgrawn Golwg, gan ysgrifennu dros fil o straeon ar eu cyfer, a phapur newydd y Western Mail.
Dros y blynyddoedd diwethaf bu’n gweithio yn rhan amser yng nghanolfan man geni Dylan Thomas yn Abertawe, gan dywys ymwelwyr gan gynnwys yr actor Johnny Depp o amgylch 5 Cwmdonkin Drive yn 2023.
Dywedodd Geoff Haden o Fan Geni Dylan Thomas ei fod wedi bod yn “hynod freintiedig i gyd weithio ag o ers wyth mlynedd” yn y ganolfan.
"Fe wnaeth o siapio beth oedd y ganolfan," meddai.
“Roedd yn ffrind a chyd-weithwyr na fyddaf yn gweld ei fath eto - byddaf yn gweld ei eisiau yn ofnadwy."
Roedd ei lyfrau yn rhai ffeithiol yn bennaf gan gynnwys bywgraffiad Carwyn Jones, hunangofiannau ar y cyd gyda'r chwaraewr rygbi Delme Thomas, y cyn Brif Weinidog Carwyn Jones a'r actor Julian Lewis Jones, cyfrol er cof am April Jones, mwy nag un cyfrol ar hanes clwb rygbi y Scarlets.
Ysgrifennodd hefyd nofel Gymraeg, Talcen Caled, a sawl cyfrol yn y gyfres Stori Sydyn.
Roedd yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr nifer o raglenni gan gynnwys penodau o Dechrau Canu Dechrau Canmol, 100 Arwyr Cymru ac eraill, a bu'n gweithio yn adran gyflwyno Radio Cymru.
Mae'n gadael ei fam Helen a dwy chwaer, Menna a Nia.