Pasio cynnig i wahardd unig aelod Reform UK o’r Senedd am bythefnos

Pasio cynnig i wahardd unig aelod Reform UK o’r Senedd am bythefnos

Mae Aelodau o’r Senedd wedi pasio cynnig i wahardd unig aelod Reform UK am 14 diwrnod. 

Fe ddaw ar ôl i Laura Anne Jones AS wneud sylwadau hiliol am bobl Tsieniaidd mewn sgwrs WhatsApp ym mis Awst 2023. 

Mewn datganiad emosiynol yn y Senedd nos Fercher, fe soniodd am ddirywiad difrifol yn ei hiechyd meddwl dros gyfnod yr ymchwiliad o bron i ddwy flynedd. 

Fe wnaeth Pwyllgor Safonau ac Ymddygiad y Senedd argymell y gwaharddiad o bythefnos, gan ddweud "nad oes lle i sylwadau amhriodol a sarhaus yn ein Senedd nac yn ein cymdeithas yn ehangach".

A hithau dan deimlad wrth siarad cyn y bleidlais, fe ddywedodd Laura Anne Jones bod ymchwiliadau hir gan heddlu a Chomisiynydd Safonau'r Senedd, a gliriodd hi o wneud hawliadau treuliau twyllodrus, wedi cael effaith anferth a niweidiol ar ei hiechyd meddwl.

“Dwi wedi myfyrio'n ddwfn ar hyn ac rwy'n derbyn yn llwyr fod angen i mi ofalu'n fwy am fy iaith bob amser,” meddai.

“Rwyf hefyd am ddweud pa mor erchyll ma’r ymchwiliad dwy flyned wedi bod. 

“Mae wedi cael effaith ar fy mhlant yn ogystal ag effaith niweidiol mawr ar fy iechyd a fy iechyd meddwl fy hun.”

Yn ôl Senedd Cymru, mae gwaharddiad yn golygu na fydd Laura Anne Jones yn cael mynd ar dir y Senedd, yn cael ymwneud â busnes y Senedd, pleidleisio na chwaith derbyn cyflog. 

Ond fe fydd hi dal yn gallu gweithio fel Aelod o’r Senedd yn ei hetholaeth. 

Fe ddywedodd y pwyllgor yr wythnos ddiwethaf - sydd dan arweiniad Douglas Bain - eu bod “yn glir nad oes lle i sylwadau amhriodol a sarhaus yn ein Senedd, nac yn y gymdeithas yn ehangach. 

“Roedd y negeseuon hyn wedi’u cynnwys mewn sgwrs WhatsApp grŵp swyddfa, yn hytrach na fforwm gyhoeddus. Fodd bynnag, mae’n rhaid i aelodau gyd-fynd â’r côd bob amser”. 

Mae Laura Anne Jones yn cynrychioli  Dwyrain De Cymru, ac roedd yn aelod o’r Ceidwadwyr Cymreig pan wnaed yr honiadau yn ei herbyn.

Fis Gorffennaf fe gyhoeddodd yn ddi-rybudd ar faes Y Sioe Frenhinol, ysgwydd wrth ysgwydd â Nigel Farage, ei bod yn ymuno â Reform UK. 

Cafodd ei hethol yn gyntaf i’r Senedd yn 2003 gan ddal swyddi cysgodol fel aelod o’r wrthblaid. 

Fe fydd y gwaharddiad mewn grym nes hanner nos ar 3 Rhagfyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.