Dedfrydu ffermwr ifanc o Sanclêr am ymosod ar ei gyn-gariad
Mae ffermwr ifanc o Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, wedi ei ddedfrydu i 12 mis o garchar wedi ei ohirio am 24 mis am ymosod ar ei gyn-gariad.
Roedd Gilbert Roberts wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn o ymosod ar Jaylee Green.
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mercher, fe ddywedodd yr erlynydd fod dau ddigwyddiad yn ymwneud â dadlau rhwng y ddau.
Roedd yr ymosodiad cyntaf wedi digwydd mewn tractor yng Nghaerfyrddin pan y gwnaeth Roberts afael yn Ms Green wrth ei gwddf, a'i thynnu tuag ato.
Yn yr ail ymosodiad roedd Roberts wedi bwrw wyneb ei bartner gyda'i ben, a hynny mewn tractor.
Cafodd datganiad gan Ms Green ei ddarllen yn y llys, oedd yn dweud bod y digwyddiad wedi ei rhoi "dan straen" a'i gwneud "yn bryderus".
Ar ran y diffynnydd, dywedodd Aled Owen nad oedd Roberts yn cytuno gyda "beth sydd wedi digwydd o ran y ffeithiau", ond ei fod "yn derbyn bod e wedi cael prawf teg".
Cafodd Roberts ddedfryd 12 mis wedi ei ohirio am 24 mis, ac fe gafodd orchymyn cyfyngu ei osod arno am 24 mis.