'Amhosibl i'w gynnal': Perchnogion Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn chwilio am brynwr
Mae perchnogion Pafiliwn Pontrhydfendigaid yng Ngheredigion yn bwriadu gwerthu’r safle, a hynny am ei fod bellach yn "amhosibl i'w gynnal".
Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd Pwyllgor Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid fod y “sefyllfa gyllidebol a diffyg defnydd gan y cyhoedd a sefydliadau cenedlaethol wedi creu sefyllfa o wasgedd.
“Mae’r pwyllgor wedi gorfod dod i’r penderfyniad anodd mai'r unig ffordd ymlaen yw gwerthu’r pafiliwn.”
Dywedodd Efan Williams, cadeirydd y pwyllgor fod y “cydbwysedd rhwng incwm a chostau wedi mynd yn amhosibl i’w gynnal.”
Mae’r pwyllgor yn gwahodd unrhywun sydd â diddordeb i brynu’r safle i gysylltu ac yn gobeithio y bydd modd ei ddefnyddio “mewn ffordd fydd o fudd i’r gymuned leol.”
Bydd cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y pafiliwn yn cael ei gynnal nos Iau.
Ers gorffen ei adeiladu yn 2006, mae nifer o ddigwyddiadau arwyddocaol wedi cael eu cynnal yn y pafiliwn gan gynnwys Eisteddfodau Rhanbarth yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Clwb Ffermwyr Ifanc sydd yn dychwelyd i Geredigion y flwyddyn nesaf.
Cymuned
Ers i bryderon godi am ddyfodol y pafiliwn, mae nifer o bobl lleol yn dweud eu bod yn gobeithio cadw’r safle dan ofalaeth y gymuned.
Daw’r pryderon yn dilyn cyfnodau anodd i’r pafiliwn gan gynnwys yn 2013 pan ddaeth cwmni ‘Pafiliwn Cyf’ oedd yn rhedeg y safle i ben.
Ers hynny, mae’r pafiliwn wedi bod dan ofalaeth y gymuned ac yn fwy diweddar, aelodau gwirfoddol pwyllgor Eisteddfod Teulu James Pantyfedwen Pontrhydfendigaid sydd yn ei redeg.
Mae Non Jones yn byw ym mhentref Pontrhydfendigaid a phan aeth arian y pafiliwn yn brin cyn ei agor, roedd yn un o’r ddau a fuddsoddodd i sicrhau dyfodol y safle.
“Bydde’r pentref ar ei golled yn ofnadw os gollwn ni’n pafiliwn” meddai wrth Newyddion S4C.
“Os mai gwerthu’r safle fydd yr hanes, smo ni’n gwybod pwy fydd yn ei brynu felly gobeithio gallwn ei gadw yn y gymuned.
“[Yn y cyfarfod cyhoeddus] gobeithio gallwn brofi’r dŵr i weld faint o gefnogaeth sydd i gadw’r lle ar agor.
“Ma ishe rhywun i promoteo fe – dyw e ddim yn deg i wirfoddolwyr pwyllgor yr Eisteddfod.”
Mae Non Jones yn berchen trac rasio ceir ar gyrion y pentref a dywedodd fod y pafiliwn yn “cyd-fynd yn dda” gyda’r trac.
“Alli di bron cynnal unrhywbeth ar y safle – ma lle parcio ac mae’n gallu dal dros 2000 o bobl yn yr awditoriwm.”
Cydweithio
Mae Gwylon Evans yn byw ar gyrion y pentref. Dywedodd wrth Newyddion S4C fod angen i’r gymuned gydweithio i sicrhau dyfodol y safle.
“Ni ddim yn gwybod beth sy’n digwydd ‘na, does neb yn ateb ein cwestiynau.”
Ychwanegodd y byddai’n “drueni i weld y lle yn cau” a bod angen “syniadau newydd i dynnu arian i’r fenter.”
“Ma lot yn defnyddio’r safle fel ralis ceir, yr CFfI a’r Sioe leol - oni bai bod y sioe wedi symud i’r pafiliwn, byddai wedi gorffen.
“Mae’n job meddwl beth ddaw i’r safle”, ychwanegodd.
Dywedodd y byddai cau’r pafiliwn yn cael “effaith ar Geredigion i gyd.
Ymateb y cyngor lleol
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion mai “mater i'r pwyllgor a'r ymddiriedolwyr yw dyfodol y pafiliwn.”
Ychwanegodd eu bod yn “adolygu unrhyw amodau cyllido hanesyddol ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod pob rhwymedigaeth wedi'i bodloni.”
“Mater i'r pwyllgor a'r ymddiriedolwyr yw dyfodol y pafiliwn, y rhai sy'n gyfrifol am ei weithrediad.
“Byddant yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol ac yn gwneud penderfyniadau a fydd er budd gorau'r pafiliwn a'i gymuned, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau.”