Newyddion S4C

Rheilffyrdd: 'Cymru'n cael cam - ond mwy o arian i ddod'

Llun gan Jeremy Segrott (CC BY 2.0).

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod fod Cymru 'wedi cael cam' o safbwynt buddsoddiad yn y rheilffyrdd, ac mae mwy o arian ar y ffordd, yn ôl y Prif Weinidog Eluned Morgan.

Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales, dywedodd Ms Morgan fod arian yn ddyledus i Gymru yn sgîl cynllun rheilffordd HS2. 

"Os ydw i'n meddwl bod ni'n cael cam, dwi yn dweud fy nweud, a rydw i'n gwneud hynny bob tro," meddai.

 "Mae nhw [Llywodraeth y DU] wedi tywallt arian i mewn i HS2, y cyswllt rheilffordd rhwng de  a gogledd Lloegr, ac am ryw reswm, mae nhw wedi ei ddynodi fel cynllun Cymru a Lloegr, er nad oes yr un fodfedd o drac wedi ei gosod yng Nghymu. I mi, mae hynny'n anghyfiawnder sylfaenol.

“Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod bod ni'n diodde o danwariant."

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru newydd dderbyn llythyr gan Heidi Alexander, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, yn cydnabod fod rhywbeth o'i le, a bod trafodaethau'n cael eu cynnal am fuddsoddiad ychwanegol posib. Roedd  Ms Morgan yn gobeithio y byddai'r arian hynny'n "sylweddol", ond doedd hi ddim yn gallu rhoi ffigwr pendant.

Dywedodd  y byddai'r buddsoddiad ychwanegol yn debygol o fod ar orsafoedd newydd neu iadeiledd, ond wnaeth hi ddim manylu.

Wrth siarad o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Mercher dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens mai ei "phrif ffocws" wrth i adolygiad gwariant Llywodraeth y DU agosáu yn y gwanwyn oedd "sicrhau bod Cymru’n cael ei chyfran deg o gyllid" i'w wario ar y rheilffyrdd.

“Bydd hynny’n sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â’r tanfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru sydd wedi bod yn nodwedd amlwg dros y 14 mlynedd diwethaf," meddai.

Ond dywedodd Llyr Gruffydd ar ran Plaid Cymru fod £4 biliwn yn ddyledus i Gymru yn sgîl cynllun rheilffordd HS2, a bod Eluned Morgan "wedi rhoi camargraff" o lythyr Heidi Alexander.

"Dyw e ddim yn cyfeirio at annhegwch HS2, nac ychwaith yn dweud y bydd Llafur yn gwneud yn iawn am y £4 biliwn sy'n ddyledus i Gymru," meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.