Newyddion S4C

Y gantores Linda Nolan wedi marw'n 65 oed

Linda Nolan

Mae'r gantores Linda Nolan wedi marw'n 65 oed, yn dilyn cyfnod hir o waeledd.

Cyhoeddodd ei rheolwr ddydd Mercher ei bod wedi marw "gyda'i chwiorydd cariadus ger ei gwely."

Cafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2005, cyn clywed ei bod yn rhydd o ganser yn 2011. Ond fe wnaeth y cyflwr ddychwelyd yn 2017, ac roedd wedi ymledu i'w hymennydd erbyn 2023.

Yn wreiddiol o Iwerddon, fe symudodd Linda Nolan i Blackpool gyda'i theulu'n dair oed yn 1962.

Daeth i enwogrwydd fel aelod o'r Nolans gyda'i chwiorydd yn 1974, gan fynd ar daith gyda Frank Sinatra yn 1975.

Fe ddaeth llwyddiant sylweddol i'r chwiorydd yn ystod 70au'r ganrif ddiwethaf, gan gyrraedd siartiau'r 20 uchaf saith o weithiau rhwng 1979 a 1982.

'Eicon' y byd adloniant

Dywedodd ei rheolwr Dermot McNamara mewn datganiad: “Fel aelod o The Nolans, un o’r grwpiau merched mwyaf llwyddiannus erioed, cafodd Linda lwyddiant byd-eang; hi oedd yr act Wyddelig gyntaf i werthu dros filiwn o recordiau ledled y byd; gan deithio’r byd a gwerthu dros 30 miliwn o recordiau, gyda chaneuon fel Gotta Pull Myself Together, Attention to Me a’r clasur disgo eiconig I’m In The Mood for Dancing.

“Daeth ei llais nodedig a’i phresenoldeb llwyfan magnetig â llawenydd i gefnogwyr ledled y byd, gan sicrhau ei lle fel eicon o adloniant Prydeinig a Gwyddelig.

“Tu hwnt i’w gyrfa anhygoel, cysegrodd Linda ei bywyd i helpu eraill, gan helpu i godi dros £20 miliwn ar gyfer nifer o elusennau, gan gynnwys Breast Cancer Now, Cymdeithas Canser Iwerddon a’r Samariaid, ymhlith nifer eraill.

“Bydd ei hanhunanoldeb a’i hymrwymiad diflino i wneud gwahaniaeth ym mywydau eraill yn gonglfaen i’w hetifeddiaeth am byth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.