Caniatáu llwybr troed dadleuol ar draeth Nefyn yng Ngwynedd
Mae cais am ganiatâd swyddogol i lwybr troed dadleuol yn Nefyn ym Mhen Llŷn wedi cael sêl bendith, yn groes i argymhellion swyddogion cynllunio.
Cytunodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd y dylid caniatáu cais yn galw am “orchymyn addasu map diffiniol” dros y llwybr arfordirol yn Nefyn i lawr i’r harbwr gerllaw.
Cafodd y cais ei wneud dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 i gofrestru llwybr cyhoeddus ar y map.
Roedd y Cynghorydd Gruffydd Williams wedi gwneud y cais ym mis Rhagfyr 2018, cyn i gais diwygiedig diweddarach gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2021.
Yn y cyfarfod cynllunio ddechrau'r wythnos rhybuddiwyd y pwyllgor fod “risg gwirioneddol” pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo y gallai’r mater gael ei apelio - gan arwain at ymchwiliad cyhoeddus.
Byddai hynny yn ei dro yn gallu arwain at “filoedd lawer” o gostau i'r cyngor wrth amddiffyn y penderfyniad, meddai swyddogion cynllunio.
Defnydd hanesyddol
Roedd y cais wedi’i gefnogi gan 28 o “ddatganiadau tystiolaeth” a oedd yn disgrifio defnydd y cyhoedd o’r llwybr yn dyddio mor bell yn ôl â’r 1930au.
Gan ddyfynnu rhesymau’r cyngor i wrthwynebu'r cais, dywedodd swyddog nad oedd gan rhan o'r llwybr “ddim ffiniau” ac felly “nid yw’n bodoli mewn ffordd adnabyddadwy".
Roedd gwahanol rannau o'r llwybr, a gwahanol rannau o'r traeth, hefyd yn cael eu defnyddio yn ystod cynnydd a chwymp y llanw, meddai wrth y cyfarfod.
Roedd y cyngor hefyd wedi honni bod y llwybr wedi cael ei ddefnyddio gan berchnogion cychod a chytiau traeth yn unig, heb unrhyw gysylltiad â phriffordd na mynediad cyhoeddus mewn un rhan.
Ychwanegodd fod yn rhaid i’r cyhoedd “ddangos eu bod wedi defnyddio’r llwybr heb ei herio am gyfnod o 20 mlynedd,” ac i “wneud achos” roedd hefyd yn angenrheidiol sefydlu dyddiad pan ddaeth y llwybr i ddefnydd.
Yr argymhelliad oedd ei bod yn “hanfodol” ei wrthod.
'Amser maith'
Cyflwynodd yr aelod lleol, y Cynghorydd Rhys Tudur luniau du a gwyn o Nefyn yn dangos y llwybr troed.
“Mae wedi bod mewn defnydd hanesyddol dros gyfnod hir o amser, gyda llawer o bobl yn defnyddio’r llwybr ers yn blant,” meddai.
Roedd faint o dystiolaeth a ddarparwyd hefyd wedi dangos “y diddordeb mawr” gan bobl leol dros y llwybr, meddai.
“Gallwch chi weld ar y lluniau, mae pobl wedi bod yn cerdded ar hyd ymyl tai a morglawdd ers amser maith.
“Mewn rhannau mae’n gul iawn, a phan mae’r llanw’n uchel, mae pobol yn cerdded ar hyd y waliau o flaen y tai,” meddai.