Newyddion S4C

Cwynion wedi penderfyniad i ail chwarae gêm Cei Connah a'r Bala

Cei Connah v Y Bala

Fe fydd yn rhaid i Gei Connah a’r Bala ail-chwarae eu gêm dyngedfennol yn y Cymru Premier JD yn ei chyfanrwydd ar ôl i’r gêm wreiddiol gael ei gohirio wedi 62 munud oherwydd niwl.

Roedd Cei Connah 3-0 ar y blaen nos Fawrth pan benderfynodd y dyfarnwr  fynd a'r ddau dim oddi ar y cae oherwydd yr amodau.

Er i’r chwaraewyr ddisgwyl cyfnod o 20 munud, gwaethygu wnaeth y niwl, ac fe benderfynodd y dyfarnwr i ohirio’r gêm

Ond mae'r penderfyniad i ail-ddechrau'r gêm efo'r sgôr yn 0-0 wedi cythruddo clwb y Barri, sy'n cystadlu efo'r Bala i orffen yn y chwech uchaf.

Fe wnaeth Bwrdd Cynghreiriau y Cenedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru gwrdd fore Mercher i benderfynu a ddylai’r gêm gael ei hail-chwarae neu beidio.

Mewn datganiad dywedodd y bwrdd eu bod yn cydnabod yr “amgylchiadau unigryw a hynod heriol” ynglŷn ag ail-drefnu gêm ar y cyfnod hwn o’r tymor. Ond roedden nhw wedi penderfynu y byddai’r gêm yn gorfod cael ei ail-chwarae yn ei chyfanrwydd – er gwaetha'r ffaith fod Cei Connah dair gôl ar y blaen.

Fe fydd y gêm nawr yn cael ei hail-chwarae nos Wener 17 Ionawr am 19.45.

Mae Clwb Pêl-droed y Barri wedi galw ar y gymdeithas i ail-ystyried y penderfyniad, gan honni y bydd amgylchiadau'r gêm wedi newid pan fydd yn cael ei ail-chwarae.

Goblygiadau

Roedd y gêm yn un bwysig oherwydd ei fod y gêm olaf cyn i'r gynghrair hollti'n ddwy, gyda'r chwech uchaf yn brwydro am y bencampwriaeth a llefydd mewn cystadleuaeth Ewrop, tra bod y chwech isaf yn chwarae i geisio peidio cwympo o'r gynghrair ar ddiwedd y tymor.

Cyn y gêm, roedd y Bala yn y chweched safle gyda 29 pwynt, yn gyfartal ar bwyntiau gyda'r Barri, oedd yn seithfed. 

Gyda 26 pwynt, roedd gan Cei Connah hefyd siawns o gyrraedd y chwech uchaf, petasai nhw'n llwyddo i guro'r Bala, a'r Barri yn colli yn erbyn Hwlffordd - tîm oedd eisoes wedi sicrhau eu lle yn y chwech uchaf.

Tra bod gêm Cei Connah a'r Bala wedi'i ohirio wedi 62 munud, fe aeth y Barri ymlaen i gael gêm gyfartal 1-1 gartref yn erbyn Hwlffordd.

Roedd y canlyniad yn ddigon i godi'r Barri i'r chweched safle ar 30 pwynt.

Ond ar ôl i'w gêm gael ei ohirio, mae gan y Bala nawr ail gyfle i godi uwchben y Barri.

'Siomedig iawn'

Yn wreiddiol, roedd y Gymdeithas wedi trefnu i bob gêm cael eu chwarae'r un adeg, fel nad oedd un tîm yn cael gwybod be oedd angen arnyn nhw i gyrraedd safle penodol cyn chwarae.

Ond wedi'r gêm gael ei ohirio nos Fawrth, mae gan y Bala bellach y fantais o wybod be mae nhw angen wneud i godi i'r chweched safle, gyda phwynt yn ddigon i'w codi uwch pennau'r Barri oherwydd bod eu gwahaniaeth goliau'n wwell.

Mae'r ffaith fod Cei Connah hefyd yn gwybod bellach nad ydyn nhw'n gallu cyrraedd y chwech uchaf wedi canlyniad y Barri, yn newid amgylchiadau'r gêm pan fydd yn cael ei hail-chwarae, yn ôl datganiad gan Glwb Bêl-droed y Barri.

Mae'r clwb hefyd yn galw ar y Gymdeithas i "ail-ystyried eu penderfyniad".

Mewn datganiad a gafodd ei ryddhau ar y cyfryngau cymdeithasol munudau wedi penderfyniad y Gymdeithas, dywedodd llefarydd ar ran y clwb:

"Mae Clwb Pêl-droed y Barri yn siomedig iawn gyda phenderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i fynnu bod Cei Connah a’r Bala yn ail chwarae eu gêm yn Uwch Gynghrair Cymru, er bod amgylchiadau’r gêm wedi newid yn sylweddol.

“Mae gennym bellach un gêm lle mae gan un clwb y fantais o wybod ymlaen llaw sut y gallen nhw orffen uwchben clybiau eraill, ac mae gan eu gwrthwynebwyr yn wrthrychol lai o reswm i chwarae’n gystadleuol erbyn hyn, gan wybod na alle nhw bellach gyrraedd y chwech uchaf.

"Mae’r cysyniad o onestrwydd chwaraeon a oedd mor annatod yr wythnos diwethaf i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, y Barri a chlybiau eraill yn aildrefnu gemau i chwarae gyda’i gilydd ar y diwrnod olaf wedi’i anwybyddu a’i ddympio, sy’n mynd yn groes i’n credoau ni fel clwb."

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.